Llwyddiannau Llenyddol Lleol

Cystadlaethau Cyfansoddi a Chreu Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych

gan Catrin Elain Roberts

Bu llawer o lwyddiannau llenyddol yn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych eleni gyda nifer o fyfyrwyr presennol a chyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor yn serennu.

Daeth Tegwen Bruce-Deans o Landrindod, Maesyfed, sy’n astudio’r Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor, yn 3ydd yng nghystadleuaeth y Gadair ddoe.

Y dasg eleni oedd cyfansoddi cerdd gaeth neu rydd heb fod dros 100 o linellau ar y testun: ‘Diolch’. Yn unol â’r drefn newydd ar gyfer prif seremonïau’r dydd, roedd y beirniad Eurig Salisbury a Peredur Lynch yng nghwmni’r tri chystadleuydd terfynol ar y llwyfan. Dywedodd y beirniaid: “Nodwedd amlycaf y gystadleuaeth hon eleni oedd amrywiaeth rhyfeddol y lleisiau barddol y bu’n rhaid i ni eu tafoli, ac roedd hynny’n amlwg o ran mesurau, arddull a bydolwg.” Daeth Tegwen yn 3ydd yng nghystadleuaeth y Gadair yn yr Eisteddfod T llynedd hefyd.

Yn ogystal, daeth yn 2il yn y gystadleuaeth Barddoniaeth dan 25 oed (Cerdd rydd / benrhydd), yn 3ydd yn y gystadleuaeth Barddoniaeth dan 25 oed (Englyn), ac yn 2il yn y gystadleuaeth Rhyddiaith dan 25 oed (ar unrhyw ffurf) eleni. Llongyfarchiadau mawr iddi!

Echdoe bu cystadleuaeth Prif Ddramodydd Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022. Llongyfarchiadau mawr i Erin Hughes o Ben Llŷn, cyn-fyfyrwraig Prifysgol Bangor, a ddaeth yn 2il ac i Lois Medi Wiliam, yn wreiddiol o Benrhosgarnedd, a ddaeth yn 3ydd.

Y dasg eleni oedd cyfansoddi drama neu fonolog addas i’w pherfformio ar unrhyw gyfrwng, ar gyfer dim mwy na dau actor, heb fod yn hirach na chwarter awr. Yn ôl y beirniaid, Llinos Geraint a Siân Naiomi, daeth 12 ddrama fer i law, a’r gystadleuaeth yn “cadarnhau’n glir fod dyfodol y ddrama yng Nghymru yn ddiogel.”

Derbyniodd Lois hefyd y wobr 1af yn y gystadleuaeth Cyfieithu 19-25 oed yn ogystal â’r wobr 1af yn y gystadleuaeth Rhyddiaith dan 25 oed (ar unrhyw ffurf).

Bu i Erin Hughes ennill Coron Eisteddfod yr Urdd 2018, ond oherwydd salwch nid oedd modd iddi fod yn bresennol yn seremoni’r Coroni. O ganlyniad, bu i’r Urdd gymryd y cyfle i’w hanrhydeddu echdoe mewn person fel Prif Lenor Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed 2018.

O ganlyniad i’w llwyddiannau yn yr Eisteddfod, bydd y tair yn cael cyfle i fynd ar Gwrs Olwen yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd er cof am Olwen Dafydd. Mae hyn yn bosib drwy nawdd Ymddiriedolaeth Olwen Griffith.

Yn ogystal â’r prif seremonïau, bu i nifer o fyfyrwyr Prifysgol Bangor lwyddo yng nghystadlaethau Cyfansoddi a Chreu’r Eisteddfod. Bu i Gronw Ifan dderbyn y wobr 1af yn y gystadleuaeth Cyfansoddi Cainc dan 25 oed a’r 2il wobr yn y gystadleuaeth Cyfansoddi Gosodiad dan 25 oed. Cafodd Awen Gwyn Maple 2il yn y gystadleuaeth Prosiect llenyddol Blwyddyn 10 – 25 oed a 3ydd yn y gystadleuaeth Cyfieithu 19-25 oed. Daeth Tesni Peers i’r brig yn y gystadleuaeth Barddoniaeth dan 25 oed (Cerdd rydd / benrhydd) gan dderbyn y wobr 1af. Daeth hefyd yn 2il yn y gystadleuaeth Barddoniaeth dan 25 oed (Englyn) ac yn 3ydd yn y gystadleuaeth Rhyddiaith dan 25 oed (ar unrhyw ffurf). Llongyfarchiadau hefyd i Buddug Roberts am dderbyn y wobr 1af yn y gystadleuaeth Rhyddiaith dan 25 oed (Stori Fer) a’r 2il wobr yn y gystadleuaeth Rhyddiaith dan 25 oed (Ymateb creadigol i ddarn o waith gweledol gan artist o Gymru).

Llongyfarchiadau gwresog iddynt oll!