Gêm yn Seilo o’r diwedd

Felin yn colli gartref i Langefni

gan Gwilym John

Cynghrair Ardal “LockStock” Gogledd Orllewin 

Felin 1 Llangefni 2

Hon oedd y gêm gyntaf i Felin gael chwarae gartref ers canol Rhagfyr, ddim ymhell o dri mis! Mae eleni wedi bod yn wlyb iawn tydi, a tydi Cae Seilo, Felin ddim yn gae sydd yn medru dygymod efo ffasiwn law. 

Nid oedd y cae yn ffit pan drechwyd Saltney ar Ragfyr 16eg i ddweud y gwir, ond roedd y cae yn o lew i wynebu Llangefni ddechrau Mawrth. Aeth Felin yn haeddiannol ar y blaen, gyda Gruff a Iwan Bonc yn creu gol i Cal Mac rwydo yn yr hanner cyntaf. Daeth Llangefni yn ol yn gryf yn yr ail hanner, a daeth gol iddynt gyda ryw 15 munud yn weddill, 1-1.

Ond gyda Felin yn edrych y mwyaf tebygol i ennill y gêm, sgoriodd yr ymwelwyr yn yr amser ychwanegir yn y diwedd. Siom enfawr i hogiau Felin oedd wedi brwydro yn galed.

Hon oedd gêm gyntaf ail hanner y tymor, gêm rhif 16 yn y gynghrair eleni. Mae hi yn fis Mawrth gyda hanner y gemau i’w chwarae eto cyn canol Mai. Bydd 9 gêm gartref o’r 14 sydd yn weddill. Gobeithio fydd y tywydd yn gwella, wir!