Beth ydy BangorFelin360?

Gwasanaeth straeon lleol gan bobol leol yw BangorFelin360, ac mae’n rhan o gynllun Bro360 gan gwmni Golwg.

Crëwyd y wefan gyda cymdogaethau Bangor a’r Felinheli i fod yn fan canolog ar-lein ar gyfer rhannu a thrafod llwyddiannau, dyheadau, a bwrlwm y fro.

Mae BangorFelin360 yn adlewyrchu ac yn hybu diwylliant y fro trwy gyfrwng newyddion, straeon a thrafodaeth.

Gall pawb sy’n byw yn y fro greu cyfrif ar y wefan (Ymuno) a chreu drafft o stori neu ddigwyddiad. Dyma ein lle ni, pobol y fro, i roi sylw i bopeth sy’n bwysig i ni. Dyma pa mor hawdd ydy hi i greu stori.

Tîm o wirfoddolwyr sy’n ysgogi pobol i greu ar BangorFelin360, ac sy’n rhedeg y cyfrifon cymdeithasol. Os hoffech ymuno â’r criw i gynnig help llaw, cofiwch bod croeso i chi gysylltu.

Dyma ragor o gwestiynau cyffredin am BangorFelin360 a gwefannau Bro360.