Chwiaid ar werth!

Mae traddodiad Pasg y Felinheli’n dychwelyd eto ’leni

Gŵyl y Felinheli
gan Gŵyl y Felinheli
dyc

Chwiaid yn rasio ar Afon Heulyn, y Felinheli.

Mae’n debyg mai pentra Dyserth yng ngogledd Cymru a gynhaliodd y ras chwiaid plastig gyntaf er mwyn codi pres at achos da. Yn 1980, aeth landlord y dafarn leol ati i gynnal ras ar yr Afon Ffyddion i godi pres at elusen leol. Mi ledaenodd yr arfer ar draws y byd, ac mae pentra’r Felinheli wedi cynnal ras ers degawdau bellach.

Mae pwyllgor Gŵyl y Felinheli yn codi arian drwy gydol y flwyddyn, ac mae’r ras chwiaid yn hen ffefryn.

Mae’r syniad yn yn syml. Mae pobol o’r pentra, yn ogystal â theulu a ffrindiau o bob rhan o’r byd yn prynu chwdan blastig. Mae hyd at 1,000 o chwiaid wedi’u rhifo yn cael eu gollwng i Afon Heulyn ar ddydd Llun y Pasg, ac mae’r person brynodd y chwadan sy’n croesi’r llinell derfyn gyntaf yn ennill £100.

Cyn y ras ei hun, mae teuluoedd â phlant ifanc yn dod i Gae Seilo, cae chwarae’r tîm pêl-droed ar gyfer gemau sy’n gynnwys helfa wyau Pasg a ras wy ar lwy. Mae’r gweithgareddau hynny am ddim.

Mae’n ffordd hwyliog, greadigol o hel pres ar gyfer yr Ŵyl.

Mae chwiaid ar werth hyd at ddiwrnod y ras ac ar gael gan aelodau’r Pwyllgor yn ogystal ag yn ystod y gemau plant ar y diwrnod ei hun. Fel arall, cysylltwch â info@gwylfelin.org.

Mae dathliadau Pasg Gŵyl y Felinheli yn cael eu cynnal ar Ddydd Llun y Pasg, 1 Ebrill. Bydd gemau Pasg i’r plant yn cychwyn ar gae pêl-droed Cae Seilo am 10:30, efo’r ras hwyaid i gychwyn dros y ffordd ar Afon Heulyn am 12:00. Os bydd tywydd gwael bydd y ras hwyaid yn dechrau am 10:30.

Cofiwch ddilyn y digwyddiad Facebook.