Grŵp cymunedol Maesgeirchen yn derbyn grant loteri o £10,000

Mae Maes Ni wedi derbyn £10,000 i gynnal gweithdai ar gyfer pobl ifanc Maesgeirchen

gan Osian Owen

Aeth Siân Gwenllian AS draw i ymweld â’r grŵp i’w llongyfarch ar dderbyn y grant gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

  

Bu Maes Ni, grŵp cymunedol ym Maesgeirchen yn llwyddiannus wrth dderbyn grant gwerth £10,000 gan Gronfa Gymunedol y Loteri er mwyn cynnal gweithdai cerddoriaeth ac ysgrifennu creadigol i bobl hŷn, pobl ifanc a theuluoedd er mwyn ddatblygu sgiliau creadigol, gwella lles, a rhannu profiadau.

 

Yn ddiweddar aeth yr Aelod lleol o’r Senedd, Siân Gwenllian, draw i Faesgeirchen i ymweld â’r grŵp cymunedol.

 

Dywedodd;

 

“Hoffwn ddiolch i’r rheini sydd ynghlwm â Maes Ni am ymweliad gwych.

 

“Roedd y croeso a gefais gan bobl ifanc Maesgeirchen yn gynnes ac egnïol.

 

“Roedd yn codi calon gweld criw o bobl ifanc yn llawn brwdfrydedd heintus dros greu a pherfformio. 

 

“Mae’n tystio i werth cyfleoedd fel y rhai maen nhw’n eu cael gan Maes Ni, dan adain Owen Lee Maclean o Faesgeirchen a’r bardd Martin Dawes.

 

“Mae’n hollbwysig rhoi cymaint o gyfleoedd a phrofiadau ag sy’n bosibl i blant a phobl ifanc er mwyn eu harfogi â sgiliau bywyd, rhoi cyfle iddyn nhw gymdeithasu, a rhoi cyfle arbennig i arweinwyr prosiect weld ac annog talent.

 

“Mae dod o hyd i ffordd i fynegi ein hunain yn rhan bwysig o’n datblygiad personol, ac mae’r gwaith y mae sefydliadau fel Maes Ni yn ei wneud yn hanfodol yn hynny o beth.

 

“Roedd y bobl ifanc angerddol y cwrddais i â nhw yn amlwg yn cael llawer o fwynhad o’r prosiect, ac mae’n dda unwaith eto gweld gwaith da’r Loteri Genedlaethol yn ein cymunedau.”