![Untitled-design-2024-02T182139](https://360.scdn8.secure.raxcdn.com/ased/sites/16/2024/05/Untitled-design-2024-02T182139-640x396.jpg?6l)
![](https://360.scdn8.secure.raxcdn.com/ased/sites/16/2024/05/Untitled-design-2024-02T182218-225x139.jpg?0)
![](https://360.scdn8.secure.raxcdn.com/ased/sites/16/2024/05/Untitled-design-2024-02T182250-225x139.jpg?0)
![](https://360.scdn8.secure.raxcdn.com/ased/sites/16/2024/05/Untitled-design-2024-02T182307-225x139.jpg?0)
Er fod Kevin Wyn Jones wedi’i fagu yng Nghaernarfon, a’i fod yn byw yn Nhregarth erbyn hyn, reit yng nghanol y Felinheli mae ei waith. Ond mae Central Garage, y Felinheli, yn llawer mwy na gwaith.
Ar y cyntaf o Orffennaf 1976, yn yr haf poeth poeth hwnnw, aeth Kevin yn syth o’r ysgol i weithio yn Central Garage.
Ac ar y cyntaf o Fai eleni bydd yn dathlu deugain mlynedd ers iddo gymryd yr awennau yn y garej yn 1984. Erbyn hyn mae’n cyflogi pedwar mecanydd yn llawn amser.
Yn ôl Kevin, mae llyfrau hanes yn nodi bod y garej yn bodoli fel busnes ers o leiaf can mlynedd. Yn un o’r llyfrau rheini roedd llun o’r adeilad a dynnwyd yn nyddiau cynnar y busnes, ac mae artist lleol wedi peintio’r llun ar raddfa fwy i Kevin. Mae’r llun hwnnw bellach yn cael lle amlwg ar un o waliau’r garej.
Dymuna Kevin ddiolch i’w holl gwsmeriaid am eu cefnogaeth a’u ffyddlondeb ar hyd y blynyddoedd.