Band nu-metal o Fangor C E L A V I ar BBC Radio 1 am y pumed tro’n olynol!

‘COFIA’R ENW’ yn cael ei chwarae heno!

Sarah Wynn Griffiths
gan Sarah Wynn Griffiths

Band nu-metal o Fangor C E L A V I ar BBC Radio 1 am y pumed tro’n olynol!

Bydd y band metal | nu-metal | goth | nu-emo C E L A V I yn dychwelyd i donnau awyr BBC Radio 1 heno am y pumed tro’n olynol.

Mae’r gân ‘COFIA’R ENW’ wedi cael ei ddewis gan Nels Hylton i’w gael ei chwarae ar BBC Introducing Rock heno ar BBC Radio 1.

Mae Nels Hylton yn cyflwyno’r rhaglen ‘Future Alternative’ ar BBC Radio 1, a bydd Nels Hylton yn edrych ar ôl sioe radio Alyx Holcombe, yn chwarae caneuon roc newydd orau o dan y radar o BBC Introducing ar ei sioe radio.

Mae Nels Hylton eisioes wedi cefnogi C E L A V I ar ei raglen ‘Future Alternative’ ar BBC Radio 1 yn ddiweddar, gan chwarae eu trac ‘TEMPEST’ oddi ar albwm ‘DOLOREM’ gan C E L A V I.

Cafodd ‘COFIA’R ENW’ ei rhyddhau ar y 19eg o Ebrill ar y label recordiau annibynnol MERAKI, ac mae’r trac eisoes wedi cael cefnogaeth gan Adam Walton ar ‘BBC Introducing in Wales’ ar BBC Radio Wales, a gafodd ei ddewis fel ‘Tracboeth’ BBC Radio Cymru ar raglen Mirain Iwerydd gydag Elan Evans yn ddiweddar.

Ar hyn o bryd, mae C E L A V I yn gweithio ar eu EP newydd, yn ogystal â’u EP gyntaf yn y Gymraeg, ac yn edrych ‘mlaen i berfformio yn Focus Wales am y tro gyntaf eleni, yn y Penny Black, Wrecsam ar y 11eg o Fai 2024 am 8:30yh: www.focuswales.com

C E L A V I ydi Sarah a Gwion. Daw’r ddeuawd ffyrnig o Fangor, Gogledd Cymru, gyda’u sŵn anthemig ac unigryw nu-metal, sy’n chwalu’r ffiniau gyda’u ddylanwadau fetal, goth, diwydiannol, electro a roc. Maent yn galw eu hunain yn nu-emo.

Gallwch wrando ar ‘COFIA’R ENW’ gan C E L A V I heno ar BBC Introducing Rock gydag Nels Hylton ar BBC Radio 1 yma: https://www.bbc.co.uk/programmes/m001yds3 neu ar BBC Sounds.

Mae C E L A V I wedi derbyn cefnogaeth cronfa fideos LŴP x PYST yn ddiweddar, gallwch weld y fideo ar gyfer ‘COFIA’R ENW’ yma: https://amam.cymru/lwp-x-pyst/celavi-cofiar-enw

Yn ogystal, mae BBC Introducing in Wales, BBC 6 Music, BBC Radio Wales, BBC Radio Cymru a BBC Radio Cymru 2 wedi cefnogi C E L A V I, gyda BBC Radio Cymru yn disgrifio’r band fel y peth mwyaf swnllyd i ddod o Ogledd Cymru!

Gyda miliynau o ffrydiau yn rhyngwladol, a chydnabyddiaeth gan rai o’r rhestrau chwarae golygyddol mwyaf yn eu maes, mae C E L A V I yn arwain y ffordd gyda’u sŵn awthentig!

Cadwch lygad ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol C E L A V I am fwy o newyddion cyffrous yn fuan!

Am ragor o wybodaeth: musicbymeraki@gmail.com neu www.wearecelavi.com