Canmol cefnogaeth i gymuned Affricanaidd Gogledd Cymru yn ystod y cyfnod clo

Mae’r Gymdeithas wedi ei lleoli yn Nghanolfan Affricanaidd a Charibïaidd Bangor

gan Osian Owen
230631483_326815542477608

Mae gwleidydd lleol wedi canmol y gefnogaeth a roddwyd i gymuned Affricanaidd Gogledd Cymru yn ystod y cyfnod clo.

Bu Siân Gwenllian AS yn ymweld â’r ganolfan wedi iddynt dderbyn grant gan y Loteri Genedlaethol i barhau â’u “gwaith hanfodol.”

 

Yn ddiweddar aeth yr Aelod o’r Senedd dros Arfon draw i Ganolfan Affricanaidd a Charibïaidd Bangor ar y Stryd Fawr.

 

Agorodd y ganolfan ei drysau ym mis Mai i gyd-fynd â Diwrnod Rhyngwladol Affrica, ac mae’n gartref i Gymdeithas Affricanaidd Gogledd Cymru (CACB). Mae’r ganolfan yn hwb i greu cysylltiadau cymunedol a darparu cyfleoedd cymdeithasu ar gyfer y diaspora Affricanaidd a Charibïaidd yng Ngwynedd ac Ynys Môn.

 

Yn ddiweddar, croesawyd yr AS i’r ganolfan ar Stryd Fawr Bangor gan Dr. Salamatu J. Fada, Cyfarwyddwr CACB.

 

Aeth yr AS draw i longyfarch y gymdeithas ar dderbyn grant gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, ac i ddiolch iddynt am yr hyn a alwodd yn “waith hanfodol” dros ddiaspora Affricanaidd Gwynedd a Môn yn ystod cyfnodau clo Cofid.

 

Dywedodd;

 

“Fe wnes i fwynhau fy ymweliad â Chanolfan Affricanaidd a Charibïaidd Bangor yn fawr, nid yn unig am imi gael cyfle i’w llongyfarch ar dderbyn grant gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, ond hefyd i ddiolch yn bersonol iddynt am eu gwaith hanfodol yn ystod y pandemig.

 

“Maen nhw wedi bod yn darparu parseli bwyd sy’n ddiwylliannol briodol ar gyfer diaspora Affricanaidd yr ardal yn ystod y pandemig.

 

“Roedd eu gwaith yn arbennig o hanfodol ar ddechrau’r pandemig pan oedd prinder ymhlith rhai bwydydd oherwydd galw cynyddol.

 

“Creodd y gymdeithas gysylltiadau, gan roi sicrwydd i lawer o bobl mewn cyfnod o bryder mawr.

 

“Hoffwn eu llongyfarch ar dderbyn grant i barhau â’u gwaith rhagorol, ac am y croeso dymunol a chynnes a gefais.

 

“Cefais sgyrsiau hynod ddiddorol, ac edrychaf ymlaen at ddatblygu’r berthynas.”

 

Derbyniodd Cymdeithas Affricanaidd Gogledd Cymru grant o £9,975 o Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i barhau â’u gwaith.