Rhossi’r Crwban Môr

Darganfyddiad rhyfeddol teulu o Benrhos

gan Menna Baines

Nid bob dydd yr ydach chi’n dod ar draws creadur prin a hynny filoedd o filltiroedd o’i gynefin. Ond dyna’n union ddigwyddodd i fam a mab o Benrhosgarnedd wrth iddynt fynd â’u ci am dro ar un o draethau Môn cyn y Nadolig.

Cerdded ar draeth Rhosneigr yr oedd Sara a Ioan Baker pan welsant fod Meg y ci wedi dod o hyd i rywbeth yng nghanol y gwymon. Beth oedd yno ond crwban môr bychan. Yn ôl Sara roedd yn ymddangos fel petai wedi marw i ddechrau, ond o gymryd golwg agosach roeddent yn gweld ei fod yn symud. Dyma gysylltu’n syth efo’r Sw Môr ym Mrynsiencyn a daeth aelodau o’u staff draw ar unwaith gyda chyfarpar arbennig i achub y crwban.

Cafodd Sara a Ioan wybod gan Frankie Hobro, perchennog y Sw Môr, mai crwban môr Kemp’s Ridley ydoedd, sef un o’r mathau prinnaf yn y byd. Gwlff Mecsico yw cynefin naturiol y crwbanod môr bychain hyn ac yno y bydd ‘Rhossi’, fel y bedyddiwyd yr un yma, yn dychwelyd un diwrnod os bydd wedi cael ei adfer yn llwyddiannus ym Mrynsiencyn.

Yn ôl yr adroddiadau diweddaraf ar dudalen Facebook y Sw Môr mae’r arwyddion cynnar am adferiad llwyr i Rhossi yn galonogol iawn. Nid dyma’r tro cyntaf i’r Sw achub crwban môr oddi ar draethau yng Nghymru ac maent wrthi’n codi arian i adeiladu cyfleuster pwrpasol ar gyfer y gwaith – y cyntaf o’i fath yn y DU.

Yn y cyfamser, mae Meg y ci wedi cael llawer o ganmoliaeth a mwythau gan y teulu. Nid drwg o beth ydi busnesu bob amser!