Prifysgol Bangor a’r Gymuned

Diweddariad ar ddatblygiadau’r Brifysgol o ddiddordeb ac o fudd i’r gymuned leol (Gorffennaf 2023)

gan Iwan Williams

Bu’n gyfnod prysur yn y Brifysgol, ac mae paratoadau’n mynd rhagddynt ar gyfer y seremonïau graddio, sy’n digwydd rhwng 10-14 Gorffennaf. Llongyfarchiadau i bawb a fydd yn graddio maes o law, gan gynnwys y canwr a’r gwleidydd Dafydd Iwan, a fydd yn derbyn gradd er anrhydedd.

Caeodd y ffenest ar gyfer gwneud cais i ail alwad Cronfa Cydweithio Cymunedol newydd y Brifysgol ym mis Mai. Cafodd y gronfa ei chreu i annog gweithgareddau ymgysylltu dinesig gyda phartneriaid allanol. Cafodd un ar ddeg o gynigion eu cefnogi, ac mae rhai o’r projectau wedi digwydd eisoes e.e cynhadledd ynghylch gofal lliniarol / diwedd oes yn y Brifysgol, ac ymweliad ar thema pêl droed â’r Brifysgol gan dros dri deg o ddinasyddion a ddadleolwyd o Fanceinion, a drefnwyd ar y cyd â Dreigiau Gogledd Cymru. Croesewir ysgolion gogledd Cymru i ddigwyddiadau ymgynghori ar “Llefydd yn y gymuned i blant a phobl ifanc” yn Pontio ar 18fed Gorffennaf (cynradd) a 20fed Gorffennaf (uwchradd). Edrychwn ymlaen at weld sut bydd y cynigion eraill yn datblygu dros y misoedd nesaf.

Ar 5 Gorffennaf, cynhaliwyd cyfarfod arall o Fwrdd Cymunedol y Brifysgol. Trafodwyd nifer o faterion sy’n berthnasol i’r Brifysgol a phartneriaid allanol ym Mangor a thu hwnt. Mae’r datblygiadau i wella Parc y Coleg yn parhau, gyda digwyddiad ymgysylltu â’r cyhoedd yn Pontio ar 1 Awst: mae croeso cynnes i bawb alw draw i ddysgu mwy am y cynlluniau.

Mae rhaglen gymunedol Pontio yn parhau gyda’r Caffi Babis misol, sesiynau ioga, a gweithdai dawnsio wythnosol i unigolion sy’n byw gyda Parkinson’s. Mae’r rhaglen haf brysur o ymgysylltu gydag ysgolion a cholegau lleol yn parhau. Ym mis Mai, roedd perfformiad ‘Codi’r To’ yn cynnwys Ysgol Maesincla (Caernarfon) ac Ysgol Glancegin (Bangor). Ym mis Mehefin, cynhyrchodd Coleg Menai arddangosfa ffilmiau, a rhoddodd Ysgol Friars berfformiad o ‘Matilda’. Wrth edrych ymlaen at fis Gorffennaf, bydd Ysgol David Hughes, Ysgol Glanaethwy a’r Maes-G Showzone yn perfformio ar wahanol ddyddiadau, gyda RhythmAYE, gŵyl i’r teulu cyfan ar 22 Gorffennaf. Bydd Pontio hefyd yn cefnogi Gŵyl Haf Bangor ar 19 Awst.

Mae safle ‘Ar y Lôn’ M-SParc ar Stryd Fawr Bangor yn dal i ffynnu, ac mae’r safle’n lle poblogaidd gan fyfyrwyr a pobl lleol i alw heibio a chymryd mantais o’r mannau gweithio, defnyddio’r Gofod Gwneuthurwr Ffiwsiau a mynychu gweithdai e.e. Caffi Trwsio Beiciau, peiriannau gwnïo neu gyfrifiaduron. Bellach mae gan ‘Ar y Lôn’ safle ym Mhwllheli yn barod at yr Eisteddfod Genedlaethol. Cynhaliwyd ‘Egni 2023’, digwyddiad i drafod projectau ynni strategol y rhanbarth a phwyslais ar ymgysylltu â phobl ifanc lleol, yn M-SParc ym mis Mai. Ym mis Mehefin, cynhaliwyd digwyddiad Tŷ Agored, a fu’n gyfle i pobl leol ymweld ag M-SParc a dysgu mwy am y cynlluniau cyffrous i ehangu.

Roedd yr Ardd Fotaneg yn Nhreborth yn lle prysur a bywiog yn ddiweddar ar gyfer Gŵyl Draig Beats, ar 10 Mehefin. Ar ddiwrnod braf o haf, cymerodd teuluoedd a phobl o bob oed ran mewn amrywiol weithgareddau a gweithdai yn ogystal â mwynhau’r adloniant, a chodi arian i Dr Sophie Williams (cyn aelod o staff Prifysgol Bangor sydd bellach yn byw mewn gofal).

Yng Ngwobrau Cymdeithasau a Gwirfoddoli Cenedlaethol 2023, daeth ‘Te Parti’ Prifysgol Bangor i’r ail safle yng nghategori’r Digwyddiadau. Mae’r project yn cysylltu myfyrwyr sy’n gwirfoddoli â phobl hŷn yn y gymuned leol. Dathlodd y project ei ben-blwydd yn 70 oed yn 2022.

Cymerodd y Brifysgol ran yn nigwyddiad arddangos y Genhadaeth Ddinesig yn y Senedd yng Nghaerdydd ar 27 Mehefin. Bu’r digwyddiad yn gyfle i ddangos sut mae Prifysgolion Cymru yn helpu gwella llesiant ein cymunedau, gyda phwyslais ar waith Prifysgolion ym maes trechu tlodi. Cafodd gwaith y Brifysgol ar dlodi bwyd a helpu unigolion trwy Bwyd Da Môn/Bangor ei gynnwys ar yr agenda, a’i gyflwyno gan Dr Eifiona Lane a Dr Rebecca Jones.

Ddiwedd mis Mehefin, cyfarfu cynrychiolwyr o’r Brifysgol, gan gynnwys aelodau o Undeb y Myfyrwyr, yr Ysgol Fusnes, yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig a Thîm y Genhadaeth Ddinesig, â chyfeillion o Gynghorau Bangor a Gwynedd i drafod syniadau a chyfleoedd i gydweithio ar adfywio canol dinas Bangor. Yng nghyd-destun Cynllun newydd Creu Lle Bangor, o dan arweiniad Cyngor Gwynedd, bydd y grŵp yn cyfarfod eto i drafod y camau nesaf.

Bu’r Brifysgol yn brysur mewn nifer o wyliau, gan gynnwys stondin boblogaidd a bywiog yng Ngŵyl Fwyd Caernarfon ac Eisteddfod yr Urdd. Wrth edrych ymlaen, mae’r paratoadau’n mynd rhagddynt ar gyfer cyfranogiad y Brifysgol yng ngwyl Tafwyl yng Nghaerdydd ynghanol mis Gorffennaf, Sioe Môn ynghanol mis Awst ac hefyd yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan ym mis Awst. Bydd croeso cynnes i bawb alw heibio i stondin y Brifysgol a sgwrsio gyda’n staff. Yn ei prif stondin bydd y Prifysgol yn arddangos ystod amrywiol o weithgareddau, areithiau, trafodaethau panel, a phodlediadau byw, yn ogystal a’n digwyddiadau arferol megis y Digwyddiad Alumni a Prynhawn Prosecco gyda Band Pres Llareggub. Ymhellach, y Brifysgol yw prif noddwr y Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn yr Eisteddfod, ble mae ymwelwyr medru cymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau o’n pynciau gwyddoniaeth a gwrando ar drafodaethau ar ymchwil sy’n creu effaith yn lleol, yn genedlaethol a byd-eang. Croeso i bawb mynychu ein digwyddiad panel ‘Prifysgol Bangor a’r gymuned’ ar y prif stondin ar Ddydd Gwener 11eg Awst am 10-30yb.

Mae paratoadau ar waith hefyd ar gyfer Diwrnod Cymunedol cyntaf y Brifysgol erioed ddydd Sadwrn 14 Hydref. Bydd y digwyddiad am ddim a bydd gweithgareddau, gweithdai a pherfformiadau hwyliog, addysgiadol a rhyngweithiol i blant, teuluoedd a phobl o bob oedran. Bydd rhagor o wybodaeth yn dilyn. Cofiwch nodi’r dyddiad: bydd croeso cynnes i bawb!

Cyn gwyliau’r haf, hoffai’r Brifysgol ddymuno’n dda i bawb dros y gwyliau, ac edrychwn ymlaen at eich diweddaru ynglŷn â gwaith y Brifysgol a datblygiadau perthnasol yn yr hydref.

#EichPrifysgolEichCymuned