Dathlu 50mlynedd Cwm-Rhyd-y-Rhosyn yn Eisteddfod yr Urdd

Gwahoddiad i blant o bob oed a phob cwr o Gymru

gan Daniela Schlick
cwm-1a

Mae’r Mentrau Iaith yn dathlu 50mlynedd ers rhyddhau recordiadau Cwm-Rhyd-y-Rhosyn gyda llwybr arbennig trwy’r Cwm ar eu stondin yn faes Eisteddfod yr Urdd eleni. Bydd Agoriad Mawr gyda Dafydd Iwan ac Edward Morus Jones ddydd Llun, 27 Mai am 11yb ar stondin Mudiad Meithrin, sydd drws nesaf i stondin y Mentrau Iaith ac yn rhoi’r gofod i’r digwyddiad. Ac mae gwahoddiad i bawb o bob oed ymuno â’r digwyddiad ac i grwydro’r llwybr trwy’r Cwm.

Bydd y llwybr trwy’r Cwm i’r teulu cyfan ac yn brofiad amlsynhwyraidd sy’n ail-greu plentyndod cenedlaethau o blant Cymru ac yn cyflwyno’r Cwm i genhedlaeth newydd. Bydd ymwelwyr yn cael eu tywys trwy ardaloedd gwahanol y Cwm i sain caneuon a straeon y bytholwyrdd Dafydd Iwan ac Edward Morus Jones.

Mae’r prosiect yn cael ei ariannu trwy grant Creu Bach Cyngor Celfyddydau Cymru, Elusen Gwendoline a Margaret Davies, Rhieni Dros Addysg Cymraeg, Menter Iaith Maldwyn a Mentrau Iaith Cymru.

Meddai Einir Siôn, Ysgogwr y Gymraeg Cyngor Celfyddydau Cymru

“Mae Cwm Rhyd y Rhosyn wedi tanio dychymyg cenedlaethau o blant. Bydd yn hyfryd gallu dathlu’r cyfraniad arbennig hwn trwy gyflwyno’r caneuon a’r straeon i genhedlaeth newydd. Dwi’n siŵr bydd tipyn ohonom ni hen rai hefyd yn mwynhau cael ein hatgoffa o fryniau Bro Afallon a’i holl gymeriadau. Dyma waith gwreiddiol, creadigol a pherthnasol gan y Mentrau Iaith ac mae’n bleser i’r Cyngor Celfyddydau ei gefnogi.”

Mae hefyd diolch i gwmni Sain, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Mudiad Meithrin, cwmni Outdoor Toys Maldwyn ac Eisteddfod yr Urdd am eu cefnogaeth werthfawr a’r adnoddau gwahanol sydd yn allweddol i wireddu’r prosiect cyffrous hwn.

Gallwch archebu taith trwy’r Cwm ar stondin y Mentrau Iaith trwy’r calendr ar wefan y Mentrau Iaith. Cwm-Rhyd-y-Rhosyn | Y Mentrau Iaith