Chwilio am gast cymunedol

Digwyddiad theatrig unigryw ym Mangor gan Frân Wen

Frân Wen
gan Frân Wen

Awchu i berfformio?

Barod i gael hwyl a herio dy hun?

Mae cwmni theatr Frân Wen yn chwilio am berfformwyr i ymuno â chast cymunedol eu sioe nesaf, Olion.

“Dyma gyfle arbennig i fod yn rhan o ddigwyddiad theatrig unigryw ym Mangor,” meddai Elgan Rhys, Pennaeth Ymgysylltu Frân Wen.

“Rydym yn gobeithio denu 30 o berfformwyr ar gyfer y cam cyntaf yma – gyda’r nod o ehangu i 100 yn ddiweddarach yn yr haf.”

Maent yn chwilio am berfformwyr 16 oed ac i fyny, a does dim angen profiad perfformio blaenorol, dim ond tân ac awydd i gydweithio gyda pherfformwyr eraill a thîm artistig arbennig y sioe.

Dyddiadau sesiynau cychwynnol (dewis un)

  • Dydd Mercher, 12 Mehefin 6pm – 7.30pm
  • Dydd Sadwrn, 15 Mehefin 11am – 12.30pm
  • Dydd Mercher, 19 Mehefin 6pm – 7.30pm

Mwy o fanylion.