Taith Côr Meibion Dyfnant yn dod i Gadeirlan Bangor

Bydd Côr Meibion Dyfnant yn canu mewn eglwysi cadeiriol yng Nghymru gan gynnwys Cadeirlan Bangor

gan Daniela Schlick
Poster-Bangor

Lansir  “Taith Cymru”, Côr Meibion Dyfnant yng Nghadeirlan Aberhonddu ar 25 Tachwedd 2023.  Mae Côr Meibion Dyfnant yn gallu ymffrostio yn y ffaith taw’r côr yw’r hynaf o gorau meibion Cymru sydd â hanes di-dor, gan ei fod wedi diddanu cynulleidfaoedd am dros 128 o flynyddoedd.  Fodd bynnag, mae’r 12 mis nesaf yn addo bod yn un o’r blynyddoedd mwyaf cyffrous yn ei hanes. Rhagwelir y bydd y côr yn perfformio i oddeutu 4,000 o bobl yn rhai o’r lleoliadau gorau yng Nghymru.   Deellir mai’r côr fydd y côr cyntaf i drefnu taith o amgylch y chwe chadeirlan.

Yan bydd yn perfformio yng Ngŵyl Cymru Gogledd America a gynhelir yn Pittsburgh, Pennsylvania, UDA, ym mis Awst.

Mae’r rhaglen y daith yn amrywiol, a bydd Côr Meibion Dyfnant yn rhannu’r llwyfan gydag amrywiaeth o artistiaid gan gynnwys Rhys Meirion, Côr Meibion Aberhonddu a’r Cylch, Only Boys Aloud a Chôr Meibion Hwlffordd.

Dyma’r rhestr lawn o gyngherddau/ymgysylltiadau:

  • 25 Tachwedd, 2023  yng Nghadeirlan Aberhonddu gyda Chôr Meibion Aberhonddu a’r cylch
  • 16 Chwefror 2024 yng Nghadeirlan Llanelwy gyda Rhys Meirion
  • 17 Chwefror 2024 yng Nghadeirlan Bangor gyda Rhys Meirion
  • 16 Mawrth 2024 yng Nghadeirlan St Woolos, Casnewydd gydag Only Boys Aloud
  • 13 Ebrill, 2024 yng Nghadeirlan Tyddewi gyda Chôr Meibion Hwlffordd
  • 4 Gorffennaf, 2024 –  bydd Côr Meibion Dyfnant yn perfformio mewn “Cymanfa Ganu” yn Eglwys Gadeiriol Llandaf, Caerdydd.

Bydd Taith Cymru yn gorffen gyda “Chyngerdd Terfynol” syfrdanol yn Abertawe. Bydd yr artistiaid, ar wahân i “Only Boys Aloud”, a fu’n rhannu’r llwyfan gyda Chôr Meibion Dyfnant ar y daith, yn perfformio yn y cyngerdd dathlu cyffrous hwn, yn Neuadd Brangwyn.

Bydd tocynnau ar gyfer y cyngherddau ar gael tua deufis cyn pob cyngerdd, a gellir eu prynu ar wefan Côr Meibion Dyfnant a siopau lleol.  www.dunvantchoir.wales <http://www.dunvantchoir.wales> . Rhagwelir y bydd y tocynnau’n gwerthu’n gloi, felly, cynghorir y cyhoedd i brynu tocynnau ymlaen llaw!

Cysyllter a Huw Landeg Morris, Swyddog Recriwtio’r côr, am fwy o fanylion, neu os hoffech drefnu grŵp, drwy ebostio   joinus@dunvantchoir.wales