Siân yn cefnogi nyrsys sy’n streicio

Bu Siân Gwenllian ar y llinell biced yn Ysbyty Gwynedd yr wythnos ddiwethaf

Siân Gwenllian
gan Siân Gwenllian

Ymunodd yr Aelod o’r Senedd dros Arfon â nyrsys oedd ar streic yn Ysbyty Gwynedd yr wythnos ddiwethaf.

Cynhaliwyd y streic gan y Coleg Nyrsio Brenhinol yn erbyn Llywodraeth Cymru mewn lleoliadau ledled Cymru ar ddydd Mawrth 6ed a dydd Mercher 7fed Mehefin.

Ymgynghorwyd ag aelodau’r RCN sydd ar gontractau Agenda ar gyfer Newid y GIG yng Nghymru ynghylch derbyn y cynnig cyflog diwygiedig ai peidio, ond gwrthododd aelodau yng Nghymru’r cynnig, ac felly mae’r RCN yn parhau i fod mewn anghydfod â Llywodraeth Cymru.

Dangosodd Siân Gwenllian ei chefnogaeth i’r nyrsys ddydd Mercher:

“’Does ’na ddim amheuaeth, fyddai’r nyrsys ddim yn streicio oni bai fod hynny’n gwbl angenrheidiol, ac roeddwn yn falch o ddangos fy nghefnogaeth i’w galwad am Gyflog Teg i Nyrsys.

“Mae eu cyflog yn parhau i ostwng gyda chwyddiant, ac mae hyn yn chwarae rhan enfawr yn yr argyfwng staffio presennol.

“Mae’n rhaid i’r Gweinidog Iechyd ail-agor trafodaethau cyflog ar unwaith, gan fod y cynnig presennol yn dal yn is na’r hyn sydd ei angen i ddod â chyflogau yn ôl i lefelau 2008, ac mae nhw’n dal i fod ymhell o dan chwyddiant.

“Ac nid problem ariannol yn unig ydi hi – mae yna broblemau eraill gan gynnwys pwysau ac amodau gwaith.

“Rwyf i a Phlaid Cymru yn sefyll mewn undod gyda nyrsys yn eu brwydr dros gyflog teg ac amodau gwaith diogel.”