Radio Ysbyty Gwynedd yn chwilio am wirfoddolwyr!

Cyfleoedd i wirfoddoli fel Ymwelwyr Wardiau gyda’r elusen radio ysbyty ym Mangor

Sarah Wynn Griffiths
gan Sarah Wynn Griffiths
Yvonne Gallienne - Radio Ysbyty GwyneddRadio Ysbyty Gwynedd

Mae Radio Ysbyty Gwynedd yn darlledu rhaglenni adloniant a gwybodaeth i’r ysbyty a’r gymuned saith diwrnod yr wythnos, 24 awr y dydd.

Mae rhan bwysig o’u gwasanaeth yn cael ei ddarparu gan eu hymwelwyr wardiau sy’n ymweld â’r cleifion, a darparu cymorth i ‘diwnio mewn’ i’w gwasanaethau, casglu ceisiadau cerddoriaeth a negeseuon ar gyfer eu rhaglenni, a darparu gwybodaeth am y rhaglenni maen nhw’n eu darlledu i’r cleifion.

Mae cyfleoedd ymweld â’r wardiau yn addas ar gyfer pobl sydd gydag ychydig o oriau i’w sbario yn y dydd neu yn gynnar gyda’r nos – gall yr ymweliadau bod yn hyblyg i siwtio chi.

Ebostiwch radioysbytygwynedd@gmail.com am ragor o wybodaeth.

Gall cleifion yn Ysbyty Gwynedd wrando ar Radio Ysbyty Gwynedd ar sianel 1 ar eu clustffonau yn yr ysbyty. Gall ein cymuned ehangach wrando ar-lein: www.radioysbytygwynedd.com, ar Ap Radio Ysbyty Gwynedd a hefyd ar Alexa.

Cafodd Radio Ysbyty Gwynedd ei enwi’n ‘Orsaf Radio Ysbyty’r Flwyddyn 2022’ y DU gan y Gymdeithas Darlledu Ysbytai ac enillodd hefyd y wobr ‘Efydd’ am ‘Orsaf Ddigidol y Flwyddyn’ yng Ngwobrau Radio Cymunedol 2022.