Prifysgol Bangor a’r Gymuned

Diweddariad ar ddatblygiadau’r Brifysgol o ddiddordeb ac o fudd i’r gymuned leol (Hydref 2023)

gan Iwan Williams

Bu’n gyfnod prysur yn y Brifysgol, a myfyrwyr yn dechrau neu’n dychwelyd at y flwyddyn academaidd newydd. Dechreuodd wythnos y glas ar 18 Medi, gyda digon o weithgareddau a digwyddiadau i bawb sy’n newydd i’r Brifysgol.

Cafodd y Brifysgol wythnos wych yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd  ym Moduan 5 – 12 Awst. Ymwelodd miloedd â’r stondin ar y Maes a’r Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg dros yr wyth diwrnod, ac roedd llawer yno i ddiddanu pawb.

Roedd y Parth Gweithgareddau mor boblogaidd ag erioed. Roedd digon yno i ennyn diddordeb teuluoedd, gan gynnwys profi blasau gyda danteithion cynaliadwy, a chael eich trochi ym mharc saffari rhithwir tanddwr cyntaf y byd, ac arddangosfa a alluogodd ymwelwyr i weld eu gwythiennau a’u tendonau eu hunain gyda chydweithwyr o Ysgol Feddygol Gogledd Cymru.

Cafwyd amserlen wych o ddigwyddiadau ym mharth Theatr Bangor , lle cynhaliwyd llawer o drafodaethau panel a chyflwyniadau amserol a oedd yn arddangos ymchwil ac arloesedd y Brifysgol.  Yn ogystal ag Aduniad Blynyddol y Cyn-fyfyrwyr, a ddenodd tua 250 o raddedigion eleni ac uchafbwyntiau megis lansio Ymgyrch Recriwtio Myfyrwyr Ysgol Feddygol Gogledd Cymru, sesiwn gan yr hanesydd lleol Gari Wyn a oedd yn cynnwys dangosiad cyntaf y ffilm ‘Creu Prifysgol: y Blynyddoedd Cynnar’, podlediadau byw, lansio llyfrau, a pherfformiadau cerddorol a drama.

Roedd digwyddiad arall a gafodd groeso gwresog ar y stondin yn amlygu cyfraniad Prifysgol Bangor at wella lles ein cymunedau. Roedd y digwyddiad yn cynnwys siaradwyr panel o Bartneriaeth Ogwen a Menter Môn. Roedd yn nodi rhaglen fideo ymgysylltu newydd y Brifysgol, a gyflwynir gan Tudur Owen. Mae’r fideo’n dangos aelodau o’r cyhoedd sy’n ymgysylltu â’r Brifysgol ac yn elwa o’i chyfleusterau a’i gwasanaethau. Yn eu plith mae gwirfoddolwyr Pontio a llu o brojectau cymunedol yng Ngerddi Botaneg Treborth, yn ogystal â chlybiau newydd yng nghanolfan chwaraeon Canolfan Brailsford ac yn lansio busnesau llwyddiannus yn M-SParc.

Yn ogystal â chynnal Prif Stondin brysur, y Brifysgol oedd prif noddwr y Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg eleni, a fu’n gartref am wythnos i amrywiaeth o arddangoswyr gwyddonol, gan gynnwys yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg, yr Ysgol Gwyddorau Iechyd, Ysgol Feddygol Gogledd Cymru, yr Ysgol Seicoleg, Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer, ac M-SParc. Bu pob math o weithgareddau difyr, gan gynnwys radiograffeg rhithrealiti, rheoli clwyfau, profi cyflymder atgyrchau yn erbyn pobl enwog ym myd chwaraeon a chystadlaethau codio.

Bu’r cynulleidfaoedd yn mwynhau trafodaethau panel a sgyrsiau dyddiol diddorol gan gydweithwyr yn y Babell Dôm, lle bu staff y Brifysgol yn trafod pynciau fel arloesedd ynni carbon isel yn y gogledd, gofal iechyd cynaliadwy, dathlu merched dylanwadol mewn gwyddoniaeth, a mynd i’r afael â dyfodol rygbi. Cyflwynodd Dyfrig Hughes, Athro mewn Ffarmacoeconomeg, y brif ddarlith wyddoniaeth, Profion Geneteg ar gyfer Byd Diogel.

Roedd gan y Brifysgol bresenoldeb hefyd yng Ngŵyl Tafwyl yng Nghaerdydd ar 15-16 Gorffennaf, a Sioe Amaethyddol Môn ar 15-16 Awst. Roedd y rheini’n gyfleoedd pellach i drafod yr hyn sydd gan y Brifysgol i’w gynnig gydag aelodau o’r cyhoedd, rhannu deunyddiau gwybodaeth ac ateb unrhyw gwestiynau.

Mae partneriaeth tair blynedd y Brifysgol gyda’r Sefydliad Materion Cymreig yn parhau. Cynhelir y digwyddiad nesaf yn M-SParc ar 5 Hydref. Bydd ‘Pweru Ynys Ynni a’i Phobl‘ yn edrych ar botensial Ynys Môn mewn nifer o sectorau ynni, a sut y gall datblygu Ynys Ynni fod o fudd i’w chymunedau. Bydd y digwyddiad yn cynnwys siaradwyr o’r Brifysgol yn ogystal â sesiwn banel sy’n cynnwys cynrychiolwyr o Gyngor Môn, Morlais a Virginia Crosbie AS.

Mae Cronfa Cydweithio Cymunedol y Brifysgol yn parhau i gefnogi nifer o ddigwyddiadau, gweithgareddau a phrojectau. Cynhaliwyd gweithdy ‘Adeiladu PC’ llwyddiannus yng nghanolfan newydd M-SParc ‘Ar Daith’ ym Mhwllheli ar 15 Medi. Bydd y rownd nesaf o geisiadau ar gyfer staff y Brifysgol yn agor yn y misoedd nesaf.

Cynhaliwyd cyfarfod diweddaraf Bwrdd Cymunedol y Brifysgol yn Nhŷ Gwyrddfai, hyb datgarboneiddio newydd Adra ym Mhen-y-groes, ar 28 Medi. Ymhlith y trafodaethau roedd prosiect myfyrwyr rhyngwladol yn tacluso Pen Llŷn a thraethau Môn (cefnogwyd gan y Gronfa Cydweithio Cymunedol), diweddariad ar y gwaith i adfywio canol dinas Bangor, a ffyrdd i wella a chryfhau y cysylltiadau rhwng y Brifysgol a phartneriaid y sector cyhoeddus a trydydd sector yn ngogledd Cymru. Dechreuodd partneriaeth newydd y Brifysgol gyda Cadwyn Ogwen ar 28 Medi. Mae Cadwyn Ogwen yn rhan o Open Food Network UK. Mae’n fodd i staff a myfyrwyr y Brifysgol archebu cynnyrch gan gynhyrchwyr bwyd lleol a’u casglu o’r Brifysgol yn wythnosol.

Mae’r Brifysgol yn parhau i weithio’n glos gyda Chyngor Dinas Bangor. Cyn Gŵyl Haf Bangor ar 19 Awst, cymerodd y tîm cysylltiadau dinesig ran yn Niwrnod glanhau’r Maer, a bu Pontio’n cefnogi’r ŵyl ar y diwrnod. Lansiodd Gwirfoddoli Myfyrwyr Bangor eu Project Prydau Poeth ar 30 Medi yn Neuadd Penrhyn. Bydd y project yn darparu prydau poeth i bawb sydd eu hangen yn y gymuned. Mae’r Brifysgol hefyd yn cefnogi’r Cyngor gydag ymweliad dirprwyaeth o Soest, gefeilldref Bangor yn yr Almaen. Bydd y ddirprwyaeth yn ymweld â Bangor ddechrau mis Hydref i ddathlu 50 mlynedd o’r gefeillio, a bydd y Brifysgol yn cynnal cyngerdd gyda’r nos i ddathlu’r pen-blwydd arbennig ar 4 Hydref.

Mae Undeb Bangor, sef Undeb Myfyrwyr Bangor, yn gweithio’n glos gydag arweinwyr y myfyrwyr a’r staff yn Nhŷ Llywelyn, Uned Ddiogelwch Ganolig â 25 o welyau yn Llanfairfechan, i sefydlu project gwirfoddoli newydd. Y prif nod yw cynnig amgylchedd lle gall defnyddwyr y gwasanaeth gymysgu ag eraill a chymryd rhan mewn gweithgareddau therapiwtig, a gaiff eu cydlynu a’u darparu gan wirfoddolwyr. Mae Undeb y Myfyrwyr hefyd yn frwd i ail-lansio Sblat, un o’u projectau gwirfoddoli plant hirsefydlog, am y tro cyntaf ers y pandemig. Mae Arweinwyr y Project wrthi’n recriwtio defnyddwyr gwasanaeth a myfyrwyr, yn ogystal â chynllunio gweithgareddau hwyliog i sesiynau’r clwb ar ôl ysgol.

Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Gwastraff y Brifysgol yn prysur agosáu rhwng 16-22 Hydref, ac mae Undeb y Myfyrwyr yn gweithio’n galed i gysylltu â grwpiau’r myfyrwyr a phartneriaid cymunedol a’u cynnwys mewn gweithgareddau, a chydweithredu cymaint â phosib o dan arweiniad y myfyrwyr. Ymhlith y cynlluniau mae Glanhau’r Traethau ar yr 16ed, a digwyddiad Costau Byw ar y 18fed (gan gynnwys caffi atgyweirio, ffeirio dillad a rhoddion cynnyrch mislif i’w hailddefnyddio) ac Ymweliadau Gwastraff Cymunedol ar y 19eg gyda phartneriaid fel Cyngor Gwynedd, Caffi Trwsio Cymru a Benthyg Cymru’n cefnogi.

Mae rhaglen gymunedol Pontio yn parhau gyda’r Caffi Babis misol, a sesiynau ioga wythnosol, a gweithdai dawns i unigolion sy’n byw gyda chlefyd Parkinson. Roedd rhaglen haf brysur y ganolfan yn cynnwys nifer o ysgolion a cholegau lleol, a nifer o sioeau a pherfformiadau. At y dyfodol, bydd Pontio’n cynnal digwyddiad ar 18 Hydref i nodi Mis Hanes Pobl Ddu. Bydd ‘Dathlu a Dyrchafu’ yn cynnwys siaradwyr, perfformiadau, ffilmiau a samplau bwyd trwy arlwyo ar y cyd rhwng y Brifysgol a Chegin Maggie.

Mae Gardd Fotaneg Treborth yn fwrlwm o weithgareddau a datblygiadau cyffrous. Cynhaliwyd ‘Helfa Ffyngau’ gan Gyfeillion Gardd Fotaneg Treborth ar 30 Medi. Bu’n gyfle i aelodau o’r cyhoedd fynd i hel madarch gwyllt. Dyna i chi broject pwysig o ran gwyddoniaeth y dinasyddion i fonitro amrywiaeth ein ffyngau.

Diwrnod Cymunedol:  Dewch i ymweld â’ch Prifysgol!

Mae’r tîm cysylltiadau dinesig yn arwain ar baratoadau Diwrnod Cymunedol cyntaf y Brifysgol erioed, ddydd Sadwrn 14 Hydref rhwng 11am a 3pm. Bydd yn ddiwrnod llawn hwyl a gweithgareddau am ddim i’r teulu cyfan, a gobeithiwn y gallwch ymuno â ni!

Mae’r digwyddiad yn gyfle i’r Brifysgol agor ei drysau i’r gymuned, a bydd yn arddangos sut mae Prifysgol Bangor yn cyfrannu at fywyd cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol gogledd Cymru a thu hwnt trwy amrywiol weithgareddau, gan gynnwys ymchwil ac addysgu a chyfleusterau hamdden ac adloniant.

Bydd y rhan fwyaf o’r gweithgareddau yn Neuadd Prichard-Jones a Neuadd Powis ym mhrif adeilad y Brifysgol, a Chanolfan Celfyddydau ac Arloesi Pontio.

Mae’r digwyddiad am ddim, ac os ydych yn bwriadu ymweld cofrestrwch yma: https://www.eventbrite.co.uk/e/diwrnod-cymunedol-2023-community-day-tickets-716464132507

Mae’n gyfnod prysur a chyffrous rhwng pob dim, a byddwn yn parhau i’ch diweddaru’n gyson ar ddatblygiadau’r Brifysgol sy’n berthnasol i’r gymuned.

#EichPrifysgolEichCymuned