Felin yn rhwydo pump yng Nghwpan Cymru

Felin 5 Bae Trearddur 1

gan Gwilym John

Cwpan Cymru (Rownd rhagbrofol gyntaf)

Felin 5 Bae Trearddur 1

Roedd hon yn argoeli i fod yn gêm galed i Felin, gyda’r ymwelwyr wedi ennill dyrchafiad yn gyffyrddus y tymor ddiwethaf i brif gynghrair Arfordir Gogledd Cymru (Gorllewin), sydd ym mhedwerydd haen y pyramid, un lefel o dan lle mae Felin yn chwarae. Ond gyda rhywun efo lot o arian y tu ol i’r clwb, mae disgwyl pethau mawr ganddynt y tymor yma.

Gyda tua pum chwaraewr ddim ar gael i Felin am wahanol resymau, edrychai yn dasg anodd. Ond erbyn hanner ffordd drwy’r hanner cyntaf, roedd Felin 2-0 ar y blaen, goliau gan Iwan Edwards a Gruff John. A gyda Iwan “Bonc” Owen yn cael dwy gol hwyr, roedd Felin mwy neu lai yn yr het i’r rownd nesaf, 4-0 hanner amser.

Rhoddodd Cal McDonald Felin bellch ar y blaen gyda peniad nerthol o gic rhydd, yn dilyn ffowl ar Tom Davies. Llwyddodd Trearddur i gael cic o’r smotyn ar ol bagliad ddigon diniwed, ond roedd hi lawer rhy hwyr iddynt drio achub y gêm, a toedd ddim siap gwneud hynny arnyn nhw o gwbl i fod yn onest.

Cychwyn da i’r tymor felly, gyda phedwar seining newydd yn edrych yn addawol iawn: Cal Mac, Tomi Llywelyn, Morgan Williams, a Guto Elis.

Y gynghrair yn cychwyn Sadwrn nesaf, yn handi ddigon ym Mhwllheli, gyda llawer o griw Felin yn yr Eisteddfod i lawr y lon.

Ewch draw brynhawn Sadwrn i gefnogi.