Felin yn ennill dwy gêm mewn 4 diwrnod

Curo Penarlag a Chonwy, ar ol colli eu dwy gêm gyntaf

gan Gwilym John

Ar ol dechrau sigledig i’r tymor, yn colli 0-2 ym Mhwllheli, a wedyn 0-4 yn Seilo yn erbyn Llanrwst, daeth llygedyn o obaith. Felin yn curo y tîm o Benarlag Sir Fflint, Hawarden Rangers, o gôl i ddim. Cal Mac oedd y sgoriwr, yn cael ei gôl gyntaf i Felin ers ymuno dros yr haf. Ddyla Felin wedi eu curo o fwy, ond pwy sydd yn poeni ynte- tri phwynt gwerthfawr iawn.

Aeth pethau hyd yn oed yn well y dydd Mawrth canlynol, gyda dwy gôl Gruff John yn Stadiwm y Morfa, Conwy yn dod a thri-phwynt arall i Felin. Felin yn ennill 2-1, ac yn chwarae yn dda iawn.

Pwy fuasa’n meddwl! Felin efo dwy fuddugoliaeth yn y gynghrair mewn pedwar diwrnod, ar ol pedwar mis (!!) heb ennill tan hyn. Y fuddugoliaeth ym Mhenygroes yn erbyn Nanllle Vale amser Nadolig oedd yr un ddiwethaf.

Gêm Cwpan Cymru fydd yn Seilo dydd Sadwrn yma 19eg, local darbi yn erbyn Llanberis. Dewch i gefnogi