Diolch, Wil

Mae’n rhoi’r gorau i’w waith fel ysgrifennydd pwyllgor Gŵyl y Felin

Gŵyl y Felinheli
gan Gŵyl y Felinheli

Eleni mae Wil Williams yn rhoi’r gorau i’w waith fel ysgrifennydd pwyllgor Gŵyl y Felinheli.

Mae Wil wedi bod wrthi ers tua 15 mlynedd, ac mae o i’w weld ym mhob man yn ystod wythnos yr ŵyl, yn rhoi trefn ar y pwyllgor, yn delio efo artistiaid, yn trefnu stondinau, a llawer, llawer mwy.

Mi fydd sgidia ‘Wil Bach’ yn rhai mawr i’w llenwi. Diolch Wil.