Deudwch i mi – Goriad yn holi a stilio

Dowch i nabod Evie Cook

gan Daniela Schlick
Evie-Cook

Enw – Evie Cook
Gwaith – Dietegydd

Er pa bryd yr ydach chi’n dysgu Cymraeg?
Wnes i ddechrau dysgu Cymraeg pan wnes i symud i Gogledd Cymru ddwy flynedd yn ôl. Ond, i fod yn onest, dw i mond wedi bod yn defnyddio ac ymarfer fy nghmraeg yn iawn ers mis Ionawr eleni!

Beth oedd y rheswm i ddechrau arni?
Mae fy nghariad a fy ffrindiau yn siarad Cymraeg yn rhygl achos Cymraeg yw eu iaith gyntaf. Dw i isio medru siarad Cymraeg efo nhw. Hefyd, dw i’n meddwl bod hi’n pwysig i fedru siarad Cymraeg efo fy nghleifion yn y gwaith felly medra i wneud iddyn nhw deimlo’n gyfforddus.

Ydach chi’n medru iaith/ieithoedd eraill?
Dim ond Saesneg yn anffodus! O’n i’n dysgu Sbaeneg ac Almaeneg yn yr ysgol pan o’n i’n blentyn ond fedra i ddim siarad nhw mwyach. Mi faswn i’n hoffi siarad mwy o ieithoedd – ella Portuguese neu Sbaeneg eto achos dw i’n hoffi mynd ar wylia i Bortiwgal a Sbaen.

Beth ydy’ch diddordebau eraill?
Mae gen i lawer o ddiddordebau – pan wnes i symud i Gogledd Cymru, wnes i ddechrau syrffio a padlfyrddio. Dw i’n hoffi mynd i Rosneigr neu Borth Neigwl i syrffio neu Lyn Padarn i badlfyrddio. Hefyd, dw i’n mwynhau peintio a gwneud gwaith celf yn fy amser sbar.

Ydach chi’n cadw’n heini?
Yn ogystal a syrffio a padlfyrddio, dw i’n hoffi rhedeg yn fawr – mae fy hoff lwybrau ogwmpas coedwig Niwbwrch neu rhannau o lwybr afordir Cymru. Dw i’n ffeindio bod rhedeg yn y natur yn fy ymlacio.

Ydach chi’n credu mewn bwyta’n iach?
Ydw! Ond fel dietegydd, dw i’n credu bod bwyta’n iach yn cynnwys diet cytbwys a bod yn medru mwynhau eich bwyd chi. Dw i ddim yn credu bod yna bwyd ‘da’ neu fwyd ‘drwg’, mae pob dan o fwyd yn gallu cael i fwyta fel rhan o ddiet cytbwys.

Pa un ydy eich hoff bryd?
Mae fy hoff bryd yn newid pob amser! Ar hyn o bryd, dw i’n hoffi’r pitsa o Swellies yn Y Felinheli – fy hoff un fi yw caws garf, pwdin du a jam ffigys – gwahanol ond blasus!

Enwch dri pherson basech chi’n licio cael pryd o fwyd efo nhw?
Mi faswn i’n hoffi cael pryd o fwyd efo Mark Drakeford achos roedd o’n dysgwyr Cymraeg a dw i angen awgrymiadau ganddo! Mi es i i ddarlith ganddo yn yr Eisteddfod llynedd am ei ddaith iaith a roedd o’n diddorol iawn.

Hefyd, mi faswn i’n hoffi cael pryd o fwyd efo Jarvis Cocker sy’n canu efo Pulp. Dw i’n dod o Sheffield yn wreiddiol a mae Pulp yn dod o Sheffield hefyd, felly dw i wedi tyfu i fyny yn gwrando ar ei cerddoriath pan o’n i’n ifanc.

Yn olaf, mi faswn i’n hoffi cael pryd o fwyd efo Stephanie Gilmore sy’n syrffiwr proffesiynol. Mae hi wedi enill cynghrair syrffio’r byd droeon a mae hi wedi gwneud llawer i hyrwyddo syrffio i fenywod.

Pa lyfr gwnaethoch chi ddarllen yn ddiweddar? A wnaethoch chi fwynhau?
Dw i wedi darllen yr llyfr ‘Welsh Fairy Tales, Myths and Legends’ gan Claire Fayers a wnes i fwynhau yn fawr! Mae gan y llyfr lawer o straeon byrion am Cymru a’r mabinogion. Oedd fy hoff stori am Ddinas Emrys a’r ddraig goch.

A oes gennych hoff awdur?
Does gen i ddim hoff awdur yn anffodus. Fel arfer dw i’n darllen llyfrau gan lot o awduron gwahanol felly fedra i ddim yn dewis un! Ond mi wnai i gymryd argymhellion os oes gynnoch chi!

A ydy rhaglenni S4C yn apelio at ddysgwr/ddysgwyr?
Dw i’n meddwl bod hi’n dibynnu ar eu hoffterau. Mae rhaglen Iaith ar Daith yn dda iawn achos mae’n esbonio sut mae’r enwogion wedi dysgu Cymraeg. Hefyd, wnes i fwynhau Ysgol Ni pan oedd ar y teledu achos oedd’n diddorol, doniol ac wnaeth o gyflwyno fi i Gymraeg llafar arferol.

A oes angen mwy o raglenni i ddysgwyr?
Oes! Pan dach chi’n dechrau dysgu Cymraeg, mae’n anodd i ddilyn y sgwrs yn yr rhaglenni ond rhaid i chi wneud defnydd o’r isdeitlau i helpu. Ella byddai’n ddefnyddiol i gael rhaglenni gyda sgwrsiau arafach i ddysgwyr Cymraeg. Mi faswn i’n hoffi gweld mwy o raglenni ar diwylliant Cymreig neu cerddoriaeth Cymraeg er mwyn i mi ddysgu mwy.

Oes gennych chi hoff raglen deledu (unrhyw iaith)?
Dw i’n caru Derry Girls! Mae’n ddoniol iawn ac dw i wedi gwylio’r gyfres yn ol droeon. Ond ar hyn o bryd, dw i’n gwylio The Great British Bake Off – dw i’n dymuno medrwn i bobi cacen fel hynny rhywbryd!

A oes hoff raglen radio?
Dw i ddim yn gwrando i’r radio llawer i fod yn onest, ond wnes i hoffi’r rhaglen radio gan Cillian Murphy (actor o Peaky Blinders) ar BBC 6 music – o’n i’n meddwl fod ganddo flas gerddorol dda.

Sut ydach chi yn ymlacio?
Dw i’n gwneud ioga, gwrando ar gerddoriaeth a gwario amser efo ffrindiau wrth gwrs!

A ydy gwyliau’n rhan bwysig o’r flwyddyn?
Ydy yn bendant! Mi es i i Bortwgal yn ddiweddar ac wnes i fwynhau yn fawr. Mi es i ar wyliau syrffio felly wnes i dosbarth syrffio pob dydd yn ogystal a ioga a sglefrfyrddio. O’n i wedi blio’n lan ar ôl i mi ddod yn ôl ond roedd yn wylia gwerth chweil.

Os ydach chi’n mynd dramor ydach chi fel arfer yn ceisio dysgu rhywfaint o’r Iaith cyn mynd?
Ydw, dw i’n meddwl fod o’n pwysig i ddysgu peth o’r iaith ac i gael parch ar y diwylliant cyn i mi fynd i wlad wahanol. Hefyd, mi faswn i isio bod yn hyderus i fynd ar trafnidiaeth gyhoeddus a thalu am petha heb siarad yn Saesneg.

A oes gennych chi gyngor i siaradwyr Cymraeg rhugl?
Byddwch yn amyneddgar efo’r dysgwr ac paidiwch a newid i’r Saesneg os dan ni’n bod yn araf os gwelwch yn dda. Weithiau, dach chi angen dweud yr brawddeg mewn ffordd gwahanol a byddwn yn ddallt :-)