Cymuned greadigol newydd ym Mangor

Grŵp yn barod i greu gwaith mewn llefydd annisgwyl yn y ddinas.

Frân Wen
gan Frân Wen

Mae cwmni theatr Frân Wen yn sefydlu grŵp cymunedol creadigol newydd sbon ym Mangor.

Bydd y grŵp, sy’n agored i bobl dros 18 oed, yn cyfarfod yn rheolaidd i rannu, archwilio a chreu yn ei cartref newydd yng nghanol y ddinas.

Bwriad y gymuned newydd yw creu gwaith rhyfeddol mewn llefydd annisgwyl yn y ddinas a’r cyffiniau.

CREU A DATBLYGU O’R NEWYDD

Dan arweiniad artistiaid proffesiynol, mi fydd y criw yn archwilio straeon, creu sioeau, datblygu syniadau newydd a meithrin sgiliau creu theatr.

Bydd y sesiynau yn digwydd yng nghartref newydd y cwmni ar Ffordd Garth. Mae Nyth (enw’r adeilad) yn hwb celfyddydol, diwylliannol a chymunedol newydd i bobl ifanc ym Mangor,

MWY NA JEST PERFFORMIO

Mae creu theatr yn gymaint mwy nag actorion ar lwyfan a bydd y sesiynau yn archwilio bob math o sgiliau gwahanol gan gynnwys:

  • Goleuo
  • Sain
  • Dylunio
  • ‘Sgwennu
  • Cyfansoddi

SUT I YMUNO

Mae ymuno am ddim ac ond troi fyny sydd angen.

I gychwyn, bydd y sesiynau yn digwydd ar:

Nos Fercher
08 + 15 + 22 + 29 Tachwedd
6:30pm – 8:30pm

LLEOLIAD

Nyth, Ffordd Garth, BANGOR LL57 2RW

Os oes gennych unrhyw anghenion hygyrchedd neu unrhyw ymholiadau eraill plîs cysylltwch â Frân Wen.

franwen.com