Canfod ffatris ganabis arall ym Mangor

Canfuwyd ffatri ganabis yng nghyn-fwyty Eidalaidd ar y Stryd Fawr.

gan Howard Huws
Ffatri-Ganabis-2

Y tu mewn i’r ffatri

Mae’r heddlu wedi canfod ffatri ganabis arall eto fyth ym Mangor. Fel dau o’r tri arall a ganfuwyd yn ddiweddar, roedd hon ar y Stryd Fawr, lle bu bwyty Eidalaidd gynt, yn union o flaen y Gadeirlan. Mae’r heddlu yn holi dau ddyn o Albania a ymddangosodd yn Llys Ynadon yr Wyddgrug ddydd Sadwrn y 29ain o Ebrill.

Dywedodd Gwynant Roberts, Maer y Ddinas:

“Mae Bangor wedi’i thargedu gan rai gangiau drwgweithredol difrifol a pheryglus ar gyfer tyfu canabis ar raddfa fawr. Mae hyn yn anesmwythol ac y mae pryderon wedi’u mynegi. Mae graddfa soffistigeiddrwydd y drwgweithredwyr hyn wedi bod yn unigryw, a chlod i Heddlu Gogledd Cymru Bangor yw eu bod yn cael eu cau fesul un.

“Dylem fod yn ddiolchgar i’r heddlu nid yn unig am ddarganfod llwythi enfawr o gyffuriau, ond bod neges yn cael ei yrru i angiau trefnus nad Bangor yw’r lle i brofi proffesiynoldeb a gwytnwch swyddogion y gyfraith. Os yw unrhyw un i’w feio yn yr ymchwydd diweddar hwn o weithgaredd drwgweithredol, rhaid iddo fod yn rhai o landlordiaid a datblygwyr eiddo masnachol sydd wedi’i gau neu’i adael am beidio â chadw golwg cyson ar eu hadeiladau neu wirio’r rhai sydd â mynediad iddynt.

“Ar wahân i beryglon diogelwch tanau neu lygod mawr yn yr eiddo gwag hwn, mae’n rhaid bod cyfrifoldeb ar bawb i weithio efo’r heddlu i atal y math hwn o weithgaredd drwgweithredol. Mae Cyngor Dinas Bangor yn ymchwilio i ddulliau gweithio’n agosach â’r heddlu a helpu eu gweithgareddau er mwyn lleihau nifer problemau yn y ddinas.”

Mae’r heddlu wedi galw ar bobl i fod ar eu gwyliadwriaeth am unrhyw dwrw, aroglau neu arwyddion eraill. Mae’r math o ganabis a dyfir yn y ffatrïoedd hyn yn arogleuo’n gryf (tebyg i dail ceffyl), ac mae angen dwyn llawer o ddŵr a thrydan er mwyn i’r cnwd dyfu. Efo cynifer o adeiladau’r Stryd Fawr yn wag, bellach, a chyn lleied o bobl yn byw yn y cyffiniau, mae’n amlwg fod drwgweithredwyr yn ceisio llenwi’r bylchau a adawyd gan ddiflaniad siopau manwerthu.