Bwrw bol yng Nglyder!

Bydd cymhorthfa ar y cyd yn cael ei chynnal yn ward Glyder, Bangor

Siân Gwenllian
gan Siân Gwenllian

Cyfle i etholwyr gwrdd â’u cynrychiolwyr gwleidyddol i drafod materion a phryderon lleol yw cymhorthfa.

A’r mis hwn bydd Siân Gwenllian ac Elin Walker Jones yn cynnal cymhorthfa ar y cyd yn ward Glyder.

Mae’r ward yn ymestyn o ran orllewinol Bangor sydd ar lannau’r Fenai i Ffordd Penrhos, ac mae adeilad Neuadd Reichel Prifysgol Bangor ar bwynt mwyaf gogleddol y ward.

Mae Siân yn cynrychioli etholaeth Arfon, sy’n cynnwys Bangor yn Senedd Cymru, ac fe gafodd Elin ei hail-ethol i gynrychioli ward Glyder yn etholiadau Cyngor Gwynedd ym mis Mai 2022.

Mae trigolion lleol yn cael eu hannog i ddod i drafod materion sy’n berthnasol i Senedd Cymru, gan gynnwys iechyd, tai, addysg, a’r amgylchedd, neu faterion yn ymwneud â Chyngor Gwynedd, gan gynnwys casgliadau sbwriel a chaniatâd cynllunio.

Bydd y gymhorthfa yn cael ei chynnal ar 30 Mehefin.

Dylai’r sawl sy’n dymuno mynychu’r gymhorthfa gysylltu â’r swyddfa i drefnu apwyntiad. Gallwch wneud hynny drwy anfon e-bost at sian.gwenllian@senedd.cymru neu drwy ffonio 01286 672076.