Say it in… Wcreineg

Rhoi croeso i bobl o Wcráin trwy helpu nhw i ddysgu ychydig o Gymraeg

gan Daniela Schlick
Cymraeg_Wcreineg_top_2

Mae’r Mentrau Iaith wedi cynhyrchu taflenni yn ddiweddar sydd yn dangos rhai o eiriau syml yn yr iaith Gymraeg wedi eu cyfieithu i’r iaith Wcreineg. Medd Heledd ap Gwynfor, Cydlynydd Cyfathrebu gyda Mentrau Iaith Cymru:

“Mae’r taflenni hyn yn fodd o gyflwyno rhywfaint o’r Gymraeg i bobol o’r Wcráin sydd wedi ymgartrefu yng Nghymru. Mae rhestr o eiriau Cymraeg sydd wedi eu cyfieithu i’r Wcreineg ac yn cynnwys y ffonetig Wcreineg o’r geiriau Cymraeg – felly mae modd i’r Wcraniaid wybod sut mae ynganu’r geiriau hyn.” 

Mae’r Mentrau Iaith wedi cynhyrchu nifer o daflenni yn y gorffennol sydd yn cyflwyno geiriau Cymraeg ar themâu poblogaidd fel y Nadolig, y tymhorau a gwyliau Cymreig fel Dydd Santes Dwynwen, ond dyma’r tro cyntaf i’r Mentrau wneud hyn mewn trydydd iaith. Esbonia Heledd:

“Mae’r taflenni hyn wedi bod yn boblogaidd tu hwnt gan gael eu rhannu ar ein cyfryngau cymdeithasol sawl tro, y gobaith yw y byddant o fudd i gymuned newydd o bobl a’u gwneud iddyn nhw deimlo yn rhan o’r gymuned Gymreig ym mha bynnag rhan o Gymru mae’n nhw’n byw.”

Mae dysgu iaith yn gallu estyn croeso i bobl sy’n ymgartrefu yn ein cymunedau. Ac mae dysgu iaith yn gweithio ddwy ffordd. Mae’r Mentrau Iaith felly wedi creu taflen i’r Cymry Cymraeg dysgu’r geirfa syml hyn yn Wcreineg hefyd – efo’r ffonetics Cymraeg i’r Wcreineg.

Mae’r taflenni ar gael ar wefan Mentrau Iaith Cymru neu trwy e-bost at daniela@mentrauiaith.cymru.

Ond sut oedd sicrhau bod yr Wcreineg yn gywir a’r ffonetics yn gweithio yn y ddwy iaith? Mae diolch i Meirion o Fenter Iaith Bangor a Svetlana, sy’n dod o Wcrain am eu help. Svetlana a’i phartner ydy perchnogion caffi Domu ym Mangor – lle hyfryd a chroesawgar i gael panad. Mae Domu yn golygu ‘cartref’ gyda llaw. Felly, ewch i Domu i ymarfer eich Wcreineg dros banad!