Pyramid Sgwrs a Sgram

Codi arian at Gronfa Apêl Bangor, Pentir a Phenrhosgarnedd at Eisteddfod Genedlaethol 2023

gan Daniela Schlick

Ydych chi eisiau cyfle i godi arian at y ’Steddfod dros yr haf, a chymdeithasu ar yr un pryd? Beth am ymuno â Phyramid Sgwrs a Sgram Bangor a gwahodd rhai o’ch ffrindiau am baned a chacen, Prosecco a phwdin, pizza a pheint neu sgwrs dros swper?

Bydd angen i chi ymrwymo i wahodd 4 o bobl i’ch cartref neu’ch gardd am luniaeth o unrhyw fath, a gofyn iddyn nhw roi cyfraniad (isafswm o £5) at Apêl Bangor, Pentir a Phenrhosgarnedd. Bydd y 4 hynny wedyn yn cytuno i wahodd 3 i’w cartref nhw, y 3 hynny i wahodd 2, a’r 2 i wahodd 1 i orffen y pyramid. Bydd angen i bawb gadw cofnod o bwy sy’n dod i’r tŷ, a sicrhau fod yr arian yn cael ei dalu i’r un ar ben y pyramid.

Mae un pyramid llawn yn cynnwys dros 50 o bobl, felly gallwch weld sut y gallwn godi llawer iawn o arian dim ond drwy gymdeithasu efo ffrindiau!

Os ydych awydd bod yn gyfrifol am ddechrau pyramid, cysylltwch ag aelod o’r pwyllgor (manylion isod) a chofiwch yrru llun ohonoch chi a’ch ffrindiau yn mwynhau dros yr haf er mwyn i ni gael ei gynnwys yn y rhifyn nesa o’r Goriad.

Cadeirydd: Nia Roberts (niahuw@hotmail.com)
Ysgrifennydd: Catrin Elis Williams (catrinelis@aol.com)
Trysorydd: Bryn Tomos (bryn.tomos@btinternet.com)