Helpu cymunedau lleol i drawsnewid eu mannau gwyrdd

Mwy o brosiectau yn elwa trwy gefnogaeth Môn a Menai

Mabon Dafydd
gan Mabon Dafydd

Mae’r fenter gymdeithasol, Menter Môn wedi bod yn cefnogi cymunedau ar draws Gwynedd ac Ynys Môn i wella mannau gwyrdd er budd pobl leol a bywyd gwyllt.

Hyd yma mae chwe phrosiect wedi elwa o gefnogaeth trwy brosiect Môn a Menai, gyda phump arall wedi eu cymeradwyo yn ddiweddar. Mae cefnogaeth o hyd at £30,000 ar gael er mwyn gwella darpariaeth amgylcheddol a datblygu cyfleoedd gwirfoddoli. Yn y pen draw, y gobaith yw y bydd cyfanswm o 13 o brosiectau mannau gwyrdd yn elwa o’r cynllun

Mae cefnogaeth hefyd wedi bod i bobl ifanc i sicrhau profiad gwaith fel rhan o’r prosiect – gyda’r nod i rymuso preswylwyr i wella eu hamgylchedd lleol yn ogystal â gwella  lles cymunedol.

Dywedodd Rosie Frankland, swyddog prosiect Môn a Menai: “Mae mynediad i lefydd awyr agored gwyrdd deniadol – yn enwedig mewn ardaloedd trefol – yn golygu mwy i bobl, yn enwedig wrth i ni barhau i gryfhau ar ôl y pandemig. Mae’r prosiect hwn wedi ein galluogi i gefnogi cymunedau i gymryd camau i wneud gwahaniaeth i’w hamgylchedd. Mae mwy yn gwerthfawrogi eu mannau agored lleol ac yn ymwybodol o fanteision treulio amser y tu allan ym myd natur yn ogystal â chyd-weithio fel cymuned i greu rhywbeth gwerth chweil.”

Un o’r prosiectau i elwa o’r gefnogaeth gan Menter Môn yw cynllun Grŵp Cymunedol Maestryfan yng Nghae Doctor, Bangor. Ar dir yn ardal Ffriddoedd o’r ddinas, mae’r gwelliannau yn cynnwys creu llwybrau mynediad newydd, plannu coed ffrwythau, creu gwelyau blodau, plannu llysiau a pherlysiau yn ogystal â seddau gardd a blychau adar. Bydd y safle hefyd yn hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn.

Ychwanegodd cadeirydd Grŵp cymunedol Maestryfan, Ben Popat: “Roedden ni’n gwybod bod adnodd gwych posib yma ar gael ar ein stepen ddrws ond doedd yr arian na’r arbenigedd i lwyddo ddim gennym ni. Roedd cymorth Rosie a’r tîm o Menter Môn yn amhrisiadwy, y mae’r canlyniadau’n wirioneddol anhygoel.

“Rydyn ni wedi cyd-weithio i wella ardal werdd yn y ddinas er mwyn i’n cymuned allu ei mwynhau. Mae wedi dod a ni at ein gilydd, wedi creu teimlad o berthyn, helpu ni i ddysgu am natur, a thyfu cynnyrch a phlanhigion sydd o fudd i fywyd gwyllt lleol. Mae’r ardd bellach yn rhan bwysig o’n bywydau – ac mae’r budd i’w deimlo ar draws sawl cenhedlaeth.”

Mae’r prosiectau Môn a Menai eraill yn cynnwys Prosiect Incredible Edible Y Felinheli, rhandiroedd yn Amlwch, Bangor a Bryn Du; gardd gymunedol ym Mhenygroes, Llannerch-y-medd a Biwmares, Parc Pandy yn Llangefni; coetir cymunedol yn Cemaes; a thwtio mynwent yn Llanbelig ar gyrion Caernarfon.

Dywedodd Sioned Morgan Thomas, Cyfarwyddwr Prosiectau Menter Môn: “Mae gweithio gyda grwpiau cymunedol i wneud defnydd o adnoddau lleol yn rhan allweddol o’n gweledigaeth ym Menter Môn. Trwy adfywio parciau a gerddi cymunedol mewn ardaloedd sydd â llai o fynediad i fannau awyr agored rydym wedi gallu gwneud yn union hynny.

Mae Môn a Menai wedi ei ariannu trwy gronfa Cynllun Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant.

Yn ogystal â chefnogaeth Menter Môn, derbyniodd Cae Doctor arian gan Gymunedau Adfer Gogledd Cymru, Grŵp Hogan a Watkin Property Ventures, yn ogystal â rhoddion hael gan fusnesau lleol a thrigolion Bangor.

Llun: Ben Popat (Cadeirydd Grŵp Cymunedol Maestryfan) a Lauren Popat