Gwobr am farddoni

Myfyriwr o Benrhos yn dod i’r brig mewn cystadleuaeth ieuenctid

gan Menna Baines

Llongyfarchiadau i Morgan Siôn Owen ar ennill gwobr am farddoni. Morgan, sy’n dod o Benrhosgarnedd, yw enillydd Tlws D. Gwyn Evans eleni – un o nifer o wobrau ar gyfer plant a phobl ifanc sy’n cael eu rhoi gan Barddas.

Roedd yr wobr, sydd wedi’i henwi ar ôl y bardd D. Gwyn Evans, a oedd yn weinidog yn Nhal-y-bont, Aberystwyth, yn cael ei rhoi eleni am gerdd mewn unrhyw fesur ar y testun ‘Gwên’. Roedd y gystadleuaeth yn agored ar gyfer rhai o Flwyddyn 12 hyd at 25 oed, gyda Llion Pryderi Roberts yn beirniadu. Ymhlith enillwyr y gorffennol y mae Karen Owen, Eurig Salisbury, Aneirin Karadog, Llŷr Gwyn Lewis, Guto Dafydd ac Osian Owen.

Er nad oedd Morgan yn gallu bod yn y seremoni wobrwyo yn y Babell Lên yn Eisteddfod Tregaron, dangoswyd llun ohono ar sgrîn. Mae wedi derbyn cwpan i’w chadw am flwyddyn, yn rhoddedig gan deulu D. Gwyn Evans, a chopi o’r gerdd wedi’i fframio. Bydd y gerdd yn cael ei chyhoeddi yn rhifyn Hydref o Barddas.

Mae Morgan yn astudio Cymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd ac ar fin mynd i’w drydedd flwyddyn. Llongyfarchiadau mawr iddo ar ei gamp.