Diwrnod llwyddiannus dros ben yn y ’Steddfod

Llwyddiannau Bangor a’r Felinheli ar ddydd Gwener yr Eisteddfod

gan Catrin Elain Roberts

Llongyfarchiadau mawr i Ela a Non o Ysgol Tryfan am ddod i’r brig yn y gystadleuaeth Deuawd Blwyddyn 10 a dan 19 oed, ac i Gwenno Grug Roberts o Ysgol Tryfan am ddod yn 3ydd yn y gystadleuaeth Unawd Telyn Blwyddyn 10 a dan 19 oed.

Llongyfarchiadau mawr hefyd i Manw Lili Robin o Ysgol Tryfan am ddod yn 2il yn y gystadleuaeth Unawd Sioe Gerdd Blwyddyn 10 a dan 19 oed, ac yn 3ydd yn y gystadleuaeth Unawd Cerdd Dant Blwyddyn 10 a dan 19 oed. Da iawn iddi hefyd am gystadlu yn y gystadleuaeth Monolog Blwyddyn 10 a dan 19 oed.

Bu i Ysgol Glanaethwy gystadlu’n wych eto heddiw a derbyn yr 2il wobr yn y gystadleuaeth Ymgom Blwyddyn 10 a dan 19 oed.

Da iawn hefyd i Carys Clement-Evans am gystadlu yn y gystadleuaeth Unawd Piano Blwyddyn 10 a dan 19 oed, i Morgan Gray Frazer am gystadlu yn y gystadleuaeth Unawd Bechgyn Blwyddyn 10 a dan 19 oed, ac i Gôr Ysgol Tryfan am gystadlu yn y gystadleuaeth Côr Merched S.A. Blwyddyn 13 ac iau.

Da iawn wir!