DEUDWCH I MI – Goriad yn Holi a stilio

Simon Ager

gan Daniela Schlick

Ydach chi’n cofio stori am Simon a’i ganeuon ychydig yn ôl? Gwnaeth Papur Bro Goriad holi a stilio Simond. Felly, dyma fwy am y dyn cerddorol o Sir Gaerhirfryn sy’ wedi dysgu Cymraeg yn wych.

Enw: Simon Ager

Gwaith: Ieithydd dw i. Dw i’n rhedeg y wefan Omniglot.com, sy’n darparu gwybodaeth am systemau ysgrifennu ac ieithoedd, ac yn helpu pobl i ddysgu am ieithoedd a’u dysgu. Dw i’n ysgrifennu am ieithoedd ar fy mlog Omniglot, ac yn archwilio cysylltiadau rhwng yr ieithoedd Celtaidd ar fy mlog Celtiadur. Ar fy podlediad, Radio Omniglot, dw i’n siarad am eirdarddiad, ieithoedd Celtaidd a phynciau eraill yn ymwneud ag iaith.

Er pa bryd yr ydach chi’n dysgu Cymraeg?

Mi wnes i dysgu fy ngeiriau cyntaf yn y Gymraeg pan ro’n i’n blentyn o gyrsiau Cymraeg fy Mam. Yn 1988 mi wnes i ceisio dysgu Cymraeg, ond heb lwyddiant. Mi wnes i ddechrau o ddifri yn 1998. Mi wnes i ail-ddechrau yn 2003. Yn 2007 mi wnes i cwrs Cymraeg ym Mhrifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan am byfethnos, ac yn 2008 mi wnes i cwrs Cymraeg yn Nant Gwrtheryn am wythnos. Wedyn mi nes i symud i Fangor i neud gradd Meistr mewn ieithyddiaeth, a dw i’n byw yna ers hynny. Un o’r rhesymau pam wnes i dewis Bangor oedd i fod yn y Fro Cymraeg. Cyn hynny ro’n i’n byw yn Brighton a doedd dim llawer o Gymry Cymraeg yno.

Beth oedd y rheswm i ddechrau arni?

Mae gen i diddordeb yn y Gymraeg ers talwrn. Cymraes di-Gymraeg ydy fy mam, a Sais oedd fy nhad, a ro’n i eisiau dysgu’r iaith ers i mi fod yn blentyn. Yn 1998 mi wnes i cais am swydd ym Mhrifysgol Bangor, ac roedd gwybodaeth o Gymraeg yn ddymunol i’r swydd, felly mi wnes i geisio dysgu’r iaith. Wedyn yn 2003 ro’n i’n ar fy wyliau ym Mhortiwgal a mi wnes cwrdd a rhai Cymry Cymraeg. Mi wnes i ceisio sgwrsio yn y Gymraeg efo nhw heb fawr o lwyddiant.  Ar ôl i mi gyrraedd adref, mi wnes i benderfynu canolbwyntio ar y Gymraeg nes dod yn rhugl.

Ydach chi’n medru iaith/ieithoedd eraill?

Dw i’n siarad Ffrangeg, Gwyddeleg, Tsieinëeg (Mandarin) a Saesneg yn rhugl, mwy neu lai, a medru cael sgwrs yn Almaeneg, Iapaneg, Gaeleg yr Alban, Sbaeneg, Esperanto, Manaweg, Swedeg ac Iseldireg. Mae gen i ychydig o Eidaleg, Daneg, Tsiceg, Rwsieg, Cernyweg, Llydaweg, Cantoneg, Taiwaneg ac Iaith Arwyddion Prydain (BSL).

Beth ydy’ch diddordebau eraill?

Dw i’n dwli ar gerddoriaeth. Dw i’n chwarae offerynnau fel y piano, y delyn, y gitâr, y iwcalili, y mandolin, y chiwban geinog a’r cafacîniw (o Bortiwgal). Dw i’n canu yng Nhôr Cymunedol Bangor, dw i’n ysgrifennu alawon a chaneuon, a dw i’n cymryd rhan mewn sesiynau gwerin yn rheolaidd.

Dw i’n jyglo ac ymarfer sgiliau syrcas eraill. Dw i’n wrth fy modd yn darllen a gwrando a lyfrau sain.

Ydach chi’n cadw’n heini?

Dw i’n gwneud rhai ymarferion bob bore, ac yn cerdded milltir neu ddwy bob dydd, mwy neu lai. Dw i’n jyglo ac yn ymarfer fy sgiliau syrcas yn rheolaidd, ac weithiau dw i’n dawnsio mewn twmpathau.

Ydach chi’n credu mewn bwyta’n iach?

Ydw, ond dw i ddim yn llwyddo bob amser.

Pa un ydy eich hoff bryd?

Selsig a thatws stwnsh efo pys.

Enwch dri pherson basech chi’n licio cael pryd o fwyd efo nhw

Efallai Susie Dent, Stephen Fry a Sandi Toksvig.

Pa lyfr gwnaethoch chi ddarllen yn ddiweddar? A wnaethoch chi fwynhau?

Nofel gan Jodi Taylor o’r enw ‘A Catalogue of Catastrophe’. Hanes grŵp o hanesyddion sy’n teithio mewn amser i ymchwilio i ddigwyddiadau hanesyddol. Mi wnes i mwynhau’n fawr.

A oes gennych hoff awdur?

Dw i’n darllen llawer. Yr awduron dw i’n hoffi orau ydy Lindsey Davis, Terry Pratchett, Jasper Fforde, Jodi Taylor, Ben Aaronovitch a Mark Hayden.

A ydy rhaglenni S4C yn apelio at ddysgwr/ddysgwyr?

Dw i ddim yn gwilio ar S4C. Does gen i ddim teledu, ond weithiau dw i’n gwylio pethau ar-lein.

A oes angen mwy o raglenni i ddysgwyr?

Dw i ddim yn siŵr.

Oes gennych chi hoff raglen deledu (unrhyw iaith)?

Nag oes.

A oes hoff raglen radio?

Dw i’n hoffi y raglenni/podlediadau ‘You’re Dead To Me’, sy’n sôn am hanes, a ‘The Curious Cases of Rutherford & Fry’, sy’n sôn am wyddoniaeth, ar Radio 4. Dw i’n gwrando ar Radio Cymru tipyn bach bob dydd, ond does gen i ddim hoff raglen arno.

Sut ydach chi yn ymlacio?

Darllen, chwarae cerddoriaeth, mynd am dro.

A ydy gwyliau’n rhan bwysig o’r flwyddyn?

Fel arfer, ydy, ond yn ddiweddar, dw i heb fod am sbel. Cyn y pandemig, es i Iwerddon bob blwyddyn am wythnos neu ddwy i ddysgu Gwyddeleg, ac es i’r Alban bron bob blwyddyn i ddysgu caneuon yn Gaeleg yr Alban.

Os ydach chi’n mynd dramor ydach chi fel arfer yn ceisio dysgu rhywfaint o’r Iaith cyn mynd?

Ydw. Dw i’n ceisio dysgu o leia tipyn bach cyn mynd, os dw i ddim yn ei siarad yn barod.

A oes gennych chi gyngor i siaradwyr Cymraeg rhugl?

Byddwch yn amyneddgar gyda dysgwyr, a pheidiwch â newid yn awtomatig i’r Saesneg pan fyddwch chi’n clywed rhywun nad yw’n rhugl.