Cerddor o Felin yn serennu yng Ngwobrau’r Selar

Mae Guto Rhys Huws yn aelod o’r band Papur Wal, sydd wedi cipio tair gwobr yng Ngwobrau’r Selar

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Papur Wal

Mae cerddor o’r Felinheli wedi cael llwyddiant ysgubol yng Ngwobrau’r Selar eleni, gan ennill hat-tric o wobrau.

Mae Guto Rhys Huws yn drymio i’r band Papur Wal, sydd wedi ennill y wobr Band Gorau, Cân Orau, a’r Record Hir Orau am y flwyddyn ddiwethaf yn dilyn pleidlais.

Cafodd y gwobrau, sy’n cael eu trefnu gan Gylchgrawn Y Selar, eu cyhoeddi dros gyfnod o ddau ddiwrnod ar raglenni Lisa Gwilym a Huw Stephens ar BBC Radio Cymru.

Nos Fercher (16 Chwefror), daeth y band i’r brig yn y categori Cân Orau, am eu tiwn ‘Llyn Llawenydd’, yn ogystal â chategori Record Hir Orau, am yr albwm ‘Amser Mynd Adra’.

Ac wedyn nos Iau (17 Chwefror), cyhoeddodd Huw Stephens mai nhw oedd yn haeddu gwobr y Band Gorau hefyd.

Papur Wal

Er bod yr aelodau i gyd o’r gogledd orllewin, cafodd Papur Wal ei sefydlu yng Nghaerdydd yn 2016.

Ers hynny, maen nhw wedi rhyddhau’r EP, ‘Lle yn y Byd Mae Hyn?’, a mwy na hanner dwsin senglau – rhai ohonyn nhw’n ymddangos ar yr albwm diweddaraf.

‘Amser Mynd Adra’ oedd eu record hir gyntaf erioed, ac mae caneuon fel ‘Llyn Llawenydd’, ‘Arthur’ a ‘Meddwl am Hi’ wedi cael eu hail-adrodd dro ar ôl tro gan sawl un dros y flwyddyn ddiwethaf.