“Safle Treftadaeth y Byd” yn fygythiad i’r Gymraeg?

Galwad am warchod cymunedau rhag gor-dwristiaeth.

gan Howard Huws

Safle Treftadaeth y Byd – rhaid gweithredu mesurau penodol i warchod y cymunedau.

Mae Cylch yr Iaith wedi galw am weithredu mesurau pendodol i warchod cymunedau ardaloedd llechi Gwynedd rhag effeithiau gor-dwristiaeth os dynodir yr ardal yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO. Os digwydd hynny, yna mae nifer o fesurau y mae’n rhaid i Gyngor Gwynedd eu gweithredu er mwyn sicrhau na fydd y dynodiad yn cael effeithiau niweidiol ar ein cymunedau gan gynnwys ein hiaith. Mae’n eironig bod UNESCO ei hun, mewn adroddiad a gyhoeddwyd ym mis Mai, yn gosod y Gymraeg yn y dosbarth ‘Bregus’ ar ei restr o ieithoedd Ewropeaidd sydd mewn perygl o ddiflannu.

Gan mai ardaloedd fyddai’n cael eu dynodi, yn hytrach nac adeiladau a strwythurau (yn wahanol i’r Safleoedd Treftadaeth y Byd sy’n bod eisoes yng Nghymru), mae perygl i’r ardaloedd cyfan hynny ddod yn fwy o gyrchfannau gwyliau nag y maent eisoes. Mae Croeso Cymru yn un o randdeiliaid y cais dynodi, ac mae’r corff cenedlaethol hwn ynghyd â chwmni Twristiaeth Gogledd Cymru yn amcanu denu mwy fyth o ymwelwyr i ardaloedd fel Dyffryn Ogwen a Dyffryn Nantlle os bydd yr enwebiad yn llwyddiannus.

Gan hynny, mae Cylch yr Iaith yn dweud bod angen i Gyngor Gwynedd ateb y ddau gwestiwn canlynol:

1. Sut mae’r Cyngor am sicrhau na fyddai mwy o stoc dai ardaloedd fel Bethesda, Llanberis, Nantlle a Blaenau yn troi’n ail gartrefi a thai gwyliau tymor-byr o ganlyniad i’r dynodiad, ac felly’n dwysáu’r argyfwng tai? Mae astudiaeth academaidd yn dangos bod nifer dda o ymwelwyr i ardal yn dewis prynu tŷ yno fel ail gartref.

2. Sut mae Cyngor Gwynedd yn mynd i sicrhau na fyddai denu mwy o ymwelwyr yn cynyddu’r mewnlifiad Saesneg ac felly’n gwanychu’r Gymraeg fel iaith gymdeithasol? Mae astudiaeth yn dangos bod nifer dda o ymwelwyr i ardal yn prynu tai i fyw yno’n barhaol. Ymhellach, cafwyd astudiaeth gan Bwyllgor Cludiant a Thwristiaeth Senedd Ewrop yn cyflwyno tystiolaeth fod Safleoedd Treftadaeth y Byd yn dioddef effeithiau gor-dwristiaeth, a bod Cymru eisoes yn un o’r lleoedd yn Ewrop sy’n amlygu hynny.

Mae’r duedd i ail gartrefi a thai gwyliau gynyddu mewnlifiad parhaol wedi’i dwysáu gan y pandemig, wrth i ragor o bobl ddod yma ar wyliau yn hytrach na mynd dramor; wrth i ragor benderfynu ymddeol yma’n gynnar; a rhagor symud i fyw yma a gweithio o gartref. Mae hynny’n codi prisiau eiddo, ac yn gwaethygu’r argyfwng tai oherwydd na all pobl leol fforddio prynu tŷ yn eu hardal eu hunain.

Sut mae atal hynny? Yn ôl Cylch yr Iaith, rhaid i Gyngor Gwynedd gymryd camau a gosod mesurau penodol yn eu lle er mwyn sicrhau na fyddai’r dynodiad yn cael effeithiau negyddol ar y gymuned, sef:

1. Gwneud holl gynghorau cymuned ardaloedd y llechi yn rhanddeiliaid yn y Safle Treftadaeth y Byd trwy roi lle i’w cynrychiolwyr ar y Bwrdd Rheoli, fel bod y cynghorau cymuned yn cyfranogi’n llawn yn nhrafodaethau a phenderfyniadau’r Bwrdd Rheoli. Byddai hynny’n eu galluogi i fynegi barn gymunedol ar strategaeth, prosiectau a datblygiadau.

2. Bod Adran Gynllunio y Cyngor Sir yn ail-lunio methodoleg yr asesiad ardrawiad iaith presennol fel ei fod yn llawer cadarnach, er mwyn gwneud yn siŵr na fyddai datblygiadau tai a datblygiadau twristaidd yn niwediol i’r Gymraeg fel iaith gymunedol. Wedi’r cyfan, ein hiaith ydi ein treftadaeth gyfoethocaf fel bro ac fel gwlad, ac mae ei sefyllfa’n fregus.

3. Bod yr Adran Gynllunio yn sefydlu meini prawf a dangosyddion ar gyfer datblygiadau twristaidd o bob math er mwyn atal y gor-ddarparu presennol. Mae gormodedd yn broblem fawr yng Ngwynedd o ganlyniad i or-dwristiaeth, a rhaid rheoli’r sefyllfa er mwyn gwarchod buddiannau cymunedau lleol.

4. Sicrhau na fydd Croeso Cymru a chwmni Twristiaeth Gogledd Cymru yn camddefnyddio’r dynodiad er mwyn hyrwyddo eu hamcanion eu hunain. Nid yw’r ddau corff hyn yn atebol i’n cymunedau ni, ac nid ydynt yn derbyn bod twristiaeth anghynaliadwy ar waith yng Ngwynedd, nac yn cydnabod bod gor-dwristiaeth yn ymledu drwy’r sir.

Mae Cylch yr Iaith yn gofyn i Gyngor Gwynedd ymateb yn gadarnhaol i’r argymhellion hyn, a thrwy hynny ddangos ymrwymiad i wneud popeth sydd ei angen i sicrhau na fyddai dynodi ardaloedd y llechi yn Safle Treftadaeth y Byd yn gam a allai wneud sefyllfa’n hiaith yn fwy bregus fyth. Hyd yma, nid ydynt wedi gwneud.