Radio Ysbyty Gwynedd yn cefnogi Seremoni Wobrwyo Dysgwr Cymraeg y Flwyddyn 2024 BIPBC

Rhaglen radio arbennig i ddathlu staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Sarah Wynn Griffiths
gan Sarah Wynn Griffiths
Radio Ysbyty Gwynedd yn cefnogi Seremoni Wobrwyo Dysgwr Cymraeg y Flwyddyn 2024 BIPBC
Radio Ysbyty Gwynedd yn cefnogi Seremoni Wobrwyo Dysgwr Cymraeg y Flwyddyn 2024 BIPBC

Aled Hughes, BBC Radio Cymru efo Sarah Wynn ac Wynne Roberts o Radio Ysbyty Gwynedd

Radio Ysbyty Gwynedd yn cefnogi Seremoni Wobrwyo Dysgwr Cymraeg y Flwyddyn 2024 BIPBC
Radio Ysbyty Gwynedd yn cefnogi Seremoni Wobrwyo Dysgwr Cymraeg y Flwyddyn 2024 BIPBC

Darlledodd Radio Ysbyty Gwynedd, elusen gofrestredig, yn fyw o Seremoni Wobrwyo fawreddog Dysgwr Cymraeg y Flwyddyn 2024 Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ddiweddar. 

Bu rhaglen 2 awr fyw ar Radio Ysbyty Gwynedd gyda Sarah Wynn, Wynne Roberts a Paul Hughes, gyda’r cyflwynwyr Sarah Wynn ac Wynne yn darlledu’n fyw o’r gwobrau yng Ngwesty’r Oriel, Llanelwy.

Sefydlwyd y gystadleuaeth Dysgwr Cymraeg y Flwyddyn BIPBC 2024 i annog, gwobrwyo a dathlu’r staff ysbrydoledig yn y bwrdd iechyd sydd wedi cychwyn ar eu taith i ddysgu Cymraeg, neu sydd wedi parhau ar eu taith i ddysgu Cymraeg.

Yn 2016, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr oedd y bwrdd iechyd cyntaf yng Nghymru i benodi eu Tiwtor Iaith Gymraeg eu hunain, sy’n dyst i ymrwymiad a brwdfrydedd y Bwrdd Iechyd i Ddysgu Cymraeg.

Mae BIPBC, sy’n cyflogi tua 17,000 o staff, yn cynnig hyfforddiant Cymraeg 1:1 i staff, cyrsiau adrannol bach, dosbarthiadau cyffredinol a ddarperir ar draws gogledd Cymru ac ar bob lefel gallu, yn ogystal â chyrsiau ar-lein, cyrsiau dwys a chyrsiau preswyl.

Gallwch wrando eto ar yr holl gyffro o’r seremoni wobrwyo yma. Mae’r rhaglen ar hyd o bryd yn rhif 17 yn yr ‘Interview Chart’, rhif 25 yn y ‘Community Radio Chart, a rhif 48 yn y ‘Radio Chart’ ar Mixcloud.

Mae Radio Ysbyty Gwynedd ar gael nawr ar Alexa – gofynnwch i Alexa ‘Play Bangor Hospital Radio’.

Gall cleifion yn Ysbyty Gwynedd wrando ar Radio Ysbyty Gwynedd ar sianel 1 ar eu clustffonau yn yr ysbyty. Gall ein cymuned ehangach wrando ar-lein: www.radioysbytygwynedd.com, ar Ap Radio Ysbyty Gwynedd a hefyd ar Alexa.