Radio Ysbyty Gwynedd yn cefnogi Tîm Achub Mynydd Llanberis

Rhaglen radio elusennol arbennig ar Radio Ysbyty Gwynedd

Sarah Wynn Griffiths
gan Sarah Wynn Griffiths

Mae Radio Ysbyty Gwynedd, elusen gofrestredig, yn falch o gefnogi Tîm Achub Mynydd Llanberis ar eu noson elusennol arbennig ar 26 Ionawr 2024.

Cliciwch yma i wrando eto. 

Rhwng 8-9yh, bydd rhaglen arbennig Tîm Achub Mynydd Llanberis gyda’r cyflwynwyr Yvonne Gallienne a Sarah Wynn Griffiths yn amlygu gwaith heriol a gwerthfawr Tîm Achub Mynydd Llanberis.

Bydd cyfweliadau ac eitemau gwybodaeth arbennig, yn ogystal â chyfweliad gyda Jethro Kiernan sy’n gwirfoddoli yn Nhîm Achub Mynydd Llanberis.

Yn ystod y rhaglen elusennol ysbrydoledig ac addysgiadol hon, bydd Yvonne a Sarah yn codi ymwybyddiaeth o waith amhrisiadwy Tîm Achub Mynydd Llanberis, a rhannu gwybodaeth am sut y gall gwrandawyr gefnogi’r elusen trwy gyfleoedd gwirfoddoli a chodi arian.

Dywedodd Kevin Williams, Cadeirydd Radio Ysbyty Gwynedd “Rydym mor falch o gefnogi Tîm Achub Mynydd Llanberis. Mae’n gyfle gwych i ni weithio gyda’r elusen leol hon a chodi ymwybyddiaeth o’u gwaith heriol ac achub bywyd, yn ogystal â chyfleoedd codi arian a gwirfoddoli gyda’r elusen. Rydym wrth ein bodd yn gweithio gydag elusennau a byddem wrth ein bodd yn clywed gan elusennau eraill a hoffai weithio gyda ni ar un o’n rhaglenni elusennol arbennig. Gall unrhyw un sydd â diddordeb e-bostio radioysbytgwynedd@gmail.com”.

Mae Radio Ysbyty Gwynedd ar gael nawr ar Alexa – gofynnwch i Alexa ‘Play Bangor Hospital Radio’.

Gall cleifion yn Ysbyty Gwynedd wrando ar Radio Ysbyty Gwynedd ar sianel 1 ar eu clustffonau yn yr ysbyty. Gall ein cymuned ehangach wrando ar-lein: www.radioysbytygwynedd.com, ar Ap Radio Ysbyty Gwynedd a hefyd ar Alexa.

Cafodd Radio Ysbyty Gwynedd ei enwi’n ‘Orsaf Radio Ysbyty’r Flwyddyn 2022’ y DU gan y Gymdeithas Darlledu Ysbytai ac enillodd hefyd y wobr ‘Efydd’ am ‘Orsaf Ddigidol y Flwyddyn’ yng Ngwobrau Radio Cymunedol 2022.

Mae’r orsaf yn mynd o nerth i nerth – yn gweithio ar raglenni elusennol arbennig i dynnu sylw at waith gwerthfawr elusennau lleol a chenedlaethol. Llynedd, bu’r orsaf yn cefnogi nifer o ddarllediadau allanol yn cefnogi digwyddiadau gwych gan gynnwys Gŵyl Gerdd Pier Garth Bangor 2023, Balchder Gogledd Cymru 2023, Relay For Life 2023 a Phenblwydd 75 y GIG.