Noson Agored Radio Ysbyty Gwynedd

Cyfleoedd i wirfoddoli gyda’r tîm yn Radio Ysbyty Gwynedd ym Mangor

Sarah Wynn Griffiths
gan Sarah Wynn Griffiths

Oes gennych chi diddordeb mewn gwirfoddoli gyda Radio Ysbyty Gwynedd?

Mae’r orsaf radio ysbyty ym Mangor yn chwilio am fwy o wirfoddolwyr. Am ragor o wybodaeth am y cyfleoedd hyblyg sydd ar gael, dewch draw i’r Noson Agored yn Stiwdio Radio Ysbyty Gwynedd, ar nos Fercher y 5ed o Fehefin 2024, rhwng 7-9.30yh.

I gael gwybod mwy, ffoniwch: 07833141418 

Mae pob un sy’n ymwneud â’r orsaf yn gwirfoddoli i’r orsaf radio ysbyty a sefydlwyd yn ôl yn 1976.

Mae Radio Ysbyty Gwynedd ar gael nawr ar Alexa – gofynnwch i Alexa ‘Play Bangor Hospital Radio’.

Gall cleifion yn Ysbyty Gwynedd wrando ar Radio Ysbyty Gwynedd ar sianel 1 ar eu clustffonau yn yr ysbyty. Gall ein cymuned ehangach wrando ar-lein: www.radioysbytygwynedd.com, ar Ap Radio Ysbyty Gwynedd a hefyd ar Alexa.

Cafodd Radio Ysbyty Gwynedd ei enwi’n ‘Orsaf Radio Ysbyty’r Flwyddyn 2022’ y DU gan y Gymdeithas Darlledu Ysbytai ac enillodd hefyd y wobr ‘Efydd’ am ‘Orsaf Ddigidol y Flwyddyn’ yng Ngwobrau Radio Cymunedol 2022.

Mae’r orsaf yn mynd o nerth i nerth – yn gweithio ar raglenni elusennol arbennig i dynnu sylw at waith gwerthfawr elusennau lleol a chenedlaethol.