CPD Merched Felin yn ennill Cwpan 

Curo Llanystumdwy yn ffeinal Cwpan NWCFA

gan Gwilym John

Cwpan Her Cymdeithas Bel-Droed Arfordir Gogledd Cymru

CPD Y Felinheli 4 Llanystumdwy 0

Ennillodd merched Felin y gwpan yma am yr ail flynedd yn olynnol, ar ol trechu tim ifanc Llanystumdwy yn y rownd derfynnol ar gae Bastion Gardens ym Mhrestatyn. Cafwyd munud o dawelwch cyn y gêm er cof am reolwr tim dynion Euron Davies, a fu farw bore Sadwrn.

Ar ol gorffen yn drydydd ym mhrif adran Gogledd Cymru (ail haen y pyramid Cymreig), Felin oedd y ffefrynnau yn erbyn y clwb o Eifionnydd, sydd yn chwarae un lefel yn is na Felin.

Roedd hi’n 3-0 ar yr hanner, gyda Felin yn amlwg yn llawer cryfach yn gorfforol na’u gwrthwynebwyr, ac yn hollol gyffyrddus yn erbyn tîm oedd yn brwydro yn galed ac yn dangos cymeriad. Roedd hi’n boeth iawn, a’r ddau dim yn falch o glywed y chwiban terfynnol, gyda Catrin Evans (a gafodd tlws “chwaraewr y gêm” ) yn ychwanegu gôl arall i’w gwneud hi yn 4-0. Cafodd Catrin dair gôl (un yn gic o’r smotyn), a Jordanne Greenough yn cael y llall.