Marwolaeth sydyn rheolwr CPD Y Felinheli

Colled enfawr i’r teulu, y clwb peldroed, a’r gymuned 

gan Gwilym John

Bore Sadwrn, daeth y newyddion trist am farwolaeth sydyn rheolwr CPD Y Felinheli, Euron Davies, yn 47 mlwydd oed.

Cytunodd i fod yn reolwr o’r clwb peldroed yn 2010, gan ddweud y busai yn aros am dair blynedd. Ond 14 mlynedd yn ddiweddarach, roedd o dal yna. Cafwyd blynyddoedd llewyrchus o dan ei arweiniad, yn llwyddo i godi CPD Y Felinheli o haen isaf y pyramid Cymraeg (yr hen “Caernarfon&District”) i fyny i’r drydydd haen (“Yr Ardal Lock Stock Gogledd Orllewin”) gan ennill sawl cwpan a thlws ar y ffordd, gan gynnwys dwy “Junior Cup”.

Rheolwr cadarn, doeth, ac yn ffrind i bawb, ei hiwmor yn lliwgar drwy’r cwbwl. Colled enfawr i’r clwb, i’r pentref, ac i’w deulu a’i ffrindiau oll.