CPD Y Felinheli dal i obeithio

Curo Llannefydd 2-0, ac yn brwydro i aros yng nghynghrair “Ardal Gogledd Orllewin”

gan Gwilym John

Gyda gemau yn dod un ar ol y llall ddiwedd tymor, ar ol gaeaf gwlyb iawn a gemau yn cael eu gohirio, mae Felin yn cael diwedd cryf i’r tymor. Mae nhw wedi ennill pedwar allan o’r chwe gêm olaf, ac yn brwydro i aros yn y gynghrair. Mae tri clwb i fod i ddisgyn, gyda Felin yn ceisio osgoi y drop. Mae Saltney eisioes wedi gorffen ar y gwaelod a’r clwb o Benarlag, Hawarden Rangers, hefyd ar eu ffordd i lawr mwy na thebyg, felly mae Felin, Bethesda, ac efallai Conwy yn ceisio osgoi y trydydd safle o’r gwaelod.

Roedd dwy gôl hwyr yn ddigon i ennill gêm dda iawn yn erbyn Llannefydd, gyda Cal MacDonald ac Aled Griffith yn rhwydo, er fawr ryddhad i selogion cae Seilo.

Mae Felin gyda pedair gêm ar ol, dwy yn erbyn Nantlle Fêl, Llanelwy, a Mynydd Fflint (sydd yn debygol o fod yn bencampwyr). Dwy gêm sydd gan Bethesda, ac ar hyn o bryd chwe phwynt o flaen Felin, gyda Conwy saith pwynt o flaen Felin gyda mond un gêm yn weddill. Mae hi’n agos iawn yn y gwaelodion ’na,

Dweud eich dweud