Mae Elvis a’i ffrindiau yn yr adeilad… i godi arian tuag at Radio Ysbyty Gwynedd!

Gig elusennol arbennig gyda llu o westai poblogaidd!

Sarah Wynn Griffiths
gan Sarah Wynn Griffiths
Elvis + Ffrindiau - Cyngerdd Elusennol Radio Ysbyty Gwynedd

Mae Radio Ysbyty Gwynedd, elusen gofrestredig, yn barod am noson i’w gofio mis Mai, gyda chyngerdd arbennig Elvis a’i ffrindiau i godi arian tuag at yr orsaf radio ysbyty yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor.

Yn ymuno gyda’r Parchedig Wynne ‘Elvis’ Roberts ar y 10fed o Fai yn y Padarn Hotel Llanberis bydd Kev Bach, Caliburn, Karen Ann, Derfel Thomas a Disgo Vaughan Evans.

Mae’r noson yn dechrau am 7.30yh, ac mae’r tocynnau ar gael trwy ffonio 07833 141 418 neu ebostio radioysbytygwynedd@gmail.com.

Fel elusen, mae Radio Ysbyty Gwynedd yn dibynnu ar roddion caredig a digwyddiadau elusennol i barhau a’u gwasanaeth gwerthfawr i’r cleifion a’n cymunedau ehangach. Mae pob un sy’n ymwneud â’r orsaf yn gwirfoddoli i’r orsaf radio ysbyty a sefydlwyd yn ôl yn 1976.

Mae Radio Ysbyty Gwynedd ar gael nawr ar Alexa – gofynnwch i Alexa ‘Play Bangor Hospital Radio’.

Gall cleifion yn Ysbyty Gwynedd wrando ar Radio Ysbyty Gwynedd ar sianel 1 ar eu clustffonau yn yr ysbyty. Gall ein cymuned ehangach wrando ar-lein: www.radioysbytygwynedd.com, ar Ap Radio Ysbyty Gwynedd a hefyd ar Alexa.

Cafodd Radio Ysbyty Gwynedd ei enwi’n ‘Orsaf Radio Ysbyty’r Flwyddyn 2022’ y DU gan y Gymdeithas Darlledu Ysbytai ac enillodd hefyd y wobr ‘Efydd’ am ‘Orsaf Ddigidol y Flwyddyn’ yng Ngwobrau Radio Cymunedol 2022.

Mae’r orsaf yn mynd o nerth i nerth – yn gweithio ar raglenni elusennol arbennig i dynnu sylw at waith gwerthfawr elusennau lleol a chenedlaethol. Llynedd, bu’r orsaf yn cefnogi nifer o ddarllediadau allanol yn cefnogi digwyddiadau gwych gan gynnwys Gŵyl Gerdd Pier Garth Bangor 2023, Balchder Gogledd Cymru 2023, Relay For Life 2023 a Phenblwydd 75 y GIG.

Dweud eich dweud