Dihangfa fawr

CPD Y Felinheli yn llwyddo i osgoi disgyn allan o’r trydydd haen

gan Gwilym John

Cynghrair Ardal Lock Stock Gogledd Orllewin

CPD Y Felinheli 2 Mynydd Fflint 0

Ar nos Fercher wlyb iawn canol Mai, llwyddodd hogia Felin i guro pencampwyr y gynghrair yng ngêm olaf y tymor, ac wrth wneud hynny, dringo uwch ben Bethesda a Conwy yn y tabl i orffen yn 5ed o’r gwaelod, ac osgoi gorfod disgyn i lawr i bedwerydd haen y pyramid beldroed Cymreig.

Roedd angen gêm gyfartal o leiaf i orffen allan o’r tri safle isaf, ac roedd hynny am fod yn anodd yn erbyn tîm da iawn o Sir Fflint. Toedd rheini ddim wedi dod i Felin jest am drip bach, roedda nhw eisiau ennill, er eu bod eisioes wedi cipio’r teitl.

Roedd hi’n gêm gyflym llawn angerdd ac emosiwn, yr hogia yn brwydro i aros i fyny er cof am eu hannwyl reolwr Euron Davies, fu farw yn frawychus o sydyn ychydig dros wythnos yn ol.

Sgoriodd Ryan Cain y gôl gyntaf ar ol 70 munud, gyda Iwan Bonc yn rhwydo ddeg munud yn ddiweddarach, er fawr ryddhad i’r rhan fwyaf o’r dorf oedd yna (ddim bawb- roedd ambell un o Fethesda yno!)

Llwyddodd Felin i ennill saith o’u deg gêm olaf, ar ol colli naw o’r ddeg gêm cyn hynny. Dihangfa gwyrthiol yn wir. Buasai Euron wedi bod yn falch iawn o’r hogiau.