Dathliadau Gŵyl Pier Bangor!

Pier Garth Bangor yn croesawu miloedd o bobl i ddathlu penblwydd y Pier yn 128!

Sarah Wynn Griffiths
gan Sarah Wynn Griffiths
Gŵyl Pier Bangor 2024
Wynne Elvis ac Aloha Betsi Band
Yvonne Gallienne, Aaron Pleming a Sarah Wynn Griffiths o Radio Ysbyty Gwynedd
Sefydliad Confucius
Sarah Wynn Griffiths, Aaron Pleming ac Wynne 'Elvis Roberts o Radio Ysbyty Gwynedd
Karen Ann

Dathliadau Gŵyl Pier Bangor! 

Bu ddathliadau arbennig yn ddiweddar i ddathlu penblwydd Pier Garth Bangor yn 128, gyda Gŵyl y Pier ar ddydd Sul, 19eg o Fai.

Yn dilyn llwyddiant yr Ŵyl fawreddog y llynedd, bu fwy o stondinau marchnad a bwyd eleni, gyda cherddoriaeth, adloniant a hwyl i’r holl deulu.

Bu filoedd o bobl yn ymweld â’r Pier eiconig yn ystod yr Ŵyl, gyda’r haul yn gwenu, golygfeydd syfrdanol ac awyrgylch bythgofiadwy.

Yn ystod y dydd, bu perfformiadau gwych gan Band Pres Porthaethwy, Westend Academi, Côr Law Yn Law, Annette Bryn Parry, Karen Ann, Wynne Elvis, Sefydliad Confucius, Maes G Showzone, Whole of the Moon, Aloha Betsi Band ac Y Cyffro.

Bu Radio Ysbyty Gwynedd yn darlledu’n fyw o’r dathliadau yn ystod y dydd, gan ddal yr holl fwrlwm o’r digwyddiad a siarad gyda rhai o’r perfformwyr a threfnwyr yr Ŵyl, Ffrindiau Pier Garth Bangor | Friends of Bangor Garth Pier.

Am ragor wybodaeth am Ffrindiau Pier Garth Bangor | Friends of Bangor Garth Pier:

Gwefan

Grŵp Facebook