Cerdded yn ôl i Emaus

Her codi arian 28 diwrnod

gan Marian
casi

Parchedig Casi Jones

Mali – fydd yn cadw cwmni i Casi ar ei theithiau

Mae’r Parchedig Casi Jones, Gweinidog Emaus Bangor, yn cychwyn heddiw, Mehefin 10fed, ar her unigryw o’r enw “Cerdded yn ôl i Emaus” sy’n para 28 diwrnod. Mae Casi wedi bod ar gyfnod sabothol yn archwilio sut y gall eglwysi groesawu, cefnogi a chynnwys pobl ag anghenion arbennig. Bellach mae 28 diwrnod ar ôl cyn y bydd yn ail gydio yn ei gwaith yn yr eglwys – dyma esbonio’r teitl “Cerdded yn ôl i Emaus”.

Yn ystod y mis nesaf, bydd Casi yn cerdded dros 10,000 o gamau bob dydd. Er ei bod yn cydnabod na fyddai hyn yn her i bawb  “Mae o’n her i mi oherwydd, diffyg ffitrwydd a’r tueddiad i eistedd gormod wrth y cyfrifiadur ac yn y car.

“Er nad wyf wedi ymwneud llawer â’r cyfryngau cymdeithasol cyn hyn, rwyf yn bwriadu postio rhywbeth ar Facebook bob dydd,” meddai Casi. Bydd yn gwneud hyn i gyd er mwyn codi arian ar gyfer dwy apêl Cymorth Cristnogol yng Ngholombia a Zimbabwe.

Tudalen codi arian Casi

Os ydych chi am wybod mwy, croeso i chi ddilyn yr hanes ar ei thudalen Facebook Gweinidog Emaus Bangor

Bydd Casi hefyd yn cael cwmni ei chi, Mali, wrth fynd am dro, gan ychwanegu cysur a chwmnïaeth i’w theithiau.