gan
Marian
![Hywel-williams](https://360.scdn8.secure.raxcdn.com/ased/sites/16/2024/01/Hywel-williams--640x396.jpg?1g)
Mae Cyngor Dinas Bangor am gydnabod cyfraniad helaeth yr Aelod Seneddol lleol i’r gymuned drwy roi rhyddfraint y ddinas iddo.
Yn ôl Hywel Williams, ‘rwy’n hynod o falch clywed fod y Cyngor wedi dewis cynnig rhyddid y ddinas i mi. Doeddwn i ddim yn disgwyl anrhydedd fel hyn ac yn dal i fod wedi fy synnu. Bu gwasanaethu pobl Bangor a’r ddinas yn ddigon o anrhydedd ynddo’i hun. Rwy’n hynod o ddiolchgar i’r Cyngor, y Cynghorwyr ac i bobl Bangor am yr anrhydedd.’
Yn ogystal ag am ei waith fel Aelod Seneddol, roedd y Cyngor am gydnabod ei flynyddoedd o waith cymunedol tu allan i’r byd gwleidyddol.
.