Tymor newydd Bangor 1876

Dewch i gefnogi!

gan Marian
IMG_6659-002

Cadeirydd y Clwb, Glynne Roberts, yn cyflwyno Tlws Chwaraewr y Flwyddyn Cynghrair Ardal y Gogledd Orllewin i Corrig McGonigle

Bydd tair gêm gynghrair gyntaf Bangor 1876 yn y Cymru North yn cael eu chwarae gartref yn Nantporth. Ddydd Sadwrn Gorffennaf 29ain mae’r gêm gyntaf yn erbyn Tref Llanidloes.

Mae croeso i gefnogwyr pêl-droed sydd yn yr ardal ar gyfer yr Eisteddfod ddod draw i wylio Bangor 1876 yn wynebu Llandudno ar nos Fawrth Awst 8fed am 19.30.  Er mai gêm oddi cartref yw hi i fod, mae Llandudno yn gorfod chwarae yn Nantporth oherwydd trafferthion gyda’i maes artiffisial.

Yna ddydd Sadwrn Awst 12fed, bydd gêm gartref yn erbyn Tref Dinbych am 14.30 , bydd y gleision yn gobeithio am gyfle i dalu’r pwyth yn ôl i Dref Dinbych, yr unig dîm i’w curo ddwywaith yn y Gynghrair tymor diwethaf.

Cydnabod tymor anhygoel i un chwaraewr.

Yn ystod noson wobrwyo 1876, fe gyflawnodd Corrig McGonigle y gamp lawn drwy ennill gwobrau Chwaraewr y Flwyddyn y Cefnogwyr, Chwaraewr y Flwyddyn y Chwaraewyr, a Phrif Sgoriwr. Ar ben hynny, wedi pleidlais ymysg holl glybiau eraill y Gynghrair, fe’i gwobrwywyd gyda Thlws y Chwaraewr gorau yn y Gynghrair, ac yntau wedi sgorio 37 gôl cynghrair yn ystod y tymor, a deunaw mewn cystadlaethau eraill. Erbyn hyn mae’n edrych tuag at ei bedwar canfed gôl yn ystod ei yrfa.

Sialens y Cymru North

Fe fydd Corrig yn rhan o’r garfan fydd yn wynebu sialens newydd yn y Cymru North ac mae’r rheolwr, Michael Johnston, wedi bod yn weithgar iawn wrth iddo geisio cryfhau’r garfan. Arwyddwyd Iolo Hughes a Craig Whelan yn fuan wedi i’r ffenestr drosglwyddo agor, y ddau yn enwau cyfarwydd gyda chysylltiadau cryf gyda Bangor ac wedi bod yn chwarae i Gonwy yn y Cymru North yn ddiweddar. Mae Sam Jones yn fachgen lleol arall sydd wedi ymuno â’r Clwb o Landudno, lle bu’n sgorio’n gyson.  Dau arall gyda phrofiad ar y lefel yma yw’r amddiffynwyr Dan Cox a Joe Sullivan, y ddau  wedi eu harwyddo o Dref Rhuthun. Fel Corrig, fe gyflawnodd Dan y gamp lawn drwy ennill holl wobrau ei gyn clwb ar ddiwedd tymor 2021-22!