Bydd trac newydd sbon ‘NEB ARALL’ gan CELAVI, band metal | nu-metal | goth o Fangor yn cael eu chwarae ar BBC Radio 1, ar y rhaglen radio ‘BBC Introducing Rock’ gydag Alyx Holcombe.
Bydd ‘NEB ARALL’ yn cael ei chwarae o 1yb ymlaen, bore Mawrth, 4ydd o Orffennaf ar yr orsaf radio genedlaethol.
Rhyddhawyd ‘NEB ARALL’, dydd Gwener, 30 o Fehefin ar y label annibynnol MERAKI, ac mae’r trac eisoes wedi cael cefnogaeth gan Adam Walton ar BBC Introducing in Wales ar BBC Radio Wales.
Mae’r band wrth eu boddau gyda’r newyddion enfawr a methu disgwyl clywed eu trac ar BBC Radio 1!
Dywedodd CELAVI “Mae hyn yn freuddwyd wedi dod yn wir! Mae’n gymaint o fraint cael ein chwarae ar BBC Radio 1 a da ni mor ddiolchgar i Alyx a’r tîm am roi’r platfform enfawr yma i ni. Da ni’n ffans enfawr o Alyx a’r hyn mae hi’n ‘neud i gefnogi miwsig trwm yn y sîn. Mae’n mynd i fod yn hollol anhygoel gwrando ar y rhaglen a chlywed ein trac newydd sbon yn y Gymraeg ar BBC Radio 1!”.
Gwrandewch ar ‘NEB ARALL’ gan CELAVI ar raglen radio ‘BBC Introducing Rock’ gydag Alyx Holcombe ar BBC Radio 1, o 1yb ymlaen, 4ydd o Orffennaf ar BBC Radio 1, BBC Sounds ac yma: https://www.bbc.co.uk/programmes/m001n6f1
CELAVI yw Gwion a Sarah, band metal | nu-metal | goth o Fangor yng Ngogledd Cymru. Dylanwadir eu cerddoriaeth hefyd gan sŵn diwydiannol | electro a roc – gan ddod ag elfen newydd i fetal. Mae sŵn eu cerddoriaeth yn cael ei gyrru gan y gitars sy’n gwrthdaro’n ddramatig gyda llais meddal Sarah sy’n ’neud iddynt sefyll allan o’r dorf.
Yn chwifio’r faner dros fetal Cymreig, mae CELAVI wedi cael dros filiwn o ffrydiau yn rhyngwladol ac wedi derbyn cefnogaeth gan Amazon Music, gan gael eu hychwnaegu at eu rhestrau chwarae golygyddol ‘Best New Bands’ a ‘Breakthrough Rock’ tra hefyd yn derbyn cefnogaeth gan BBC Introducing ar BBC 6 Music a BBC Introducing in Wales. Cafodd y gân ‘DYMA FI’ (Chwefror 2023) ei ddewis fel ‘Trac yr Wythnos’ gan BBC Radio Cymru, gyda BBC Radio Cymru yn galw CELAVI yn ‘y peth mwyaf swnllyd i ddod o Ogledd Cymru”.
Mae ‘NEB ARALL’ yn drac llawn egni, nu-metal, goth, yn sôn am adnabod eich hunan werth. Mae’n anthem vibes prif gymeriad, sy’n ein hatgoffa na fydd rhai pobl yn gweld eich gwerth chi, ac mae hyn yn iawn. Mae’n nodyn i fod yn brif gymeriad yn eich stori eich hun, i fod yn chi, ac i droi hon yn uchel!
Bydd CELAVI’n rhyddhau eu halbwm gyntaf ‘DOLOREM’ 28 o Orffennaf, gyda lansiad yr albwm a pherfformiad byw yn HMV Caerdydd 29 o Orffennaf.
Am ragor o wybodaeth: www.wearecelavi.com