Siop ddillad dynion newydd ym Mangor Uchaf

Gŵr a gwraig wedi cyfuno eu busnesau

gan Marian
Siop In Stiches a Cream City Clothing
Y amrywiaeth o ddillad ar werth
Dewis o siacedi a chrysau lliwgar
Mae gwlân ac offer gwau ar gael o hyd

Mae siop In Stiches sy’n addasu dillad, gwerthu gwlân ac offer gwau ym Mangor uchaf wedi cael gweddnewidiad. Mae hanner y siop bellach yn gwerthu dillad dynion ’bespoke’.

Siwtiau, siacedi a chrysau ar gyfer achlysuron arbennig sydd ar werth yn rhan Gareth Williams o’r siop sef Cream City Clothing tra mae ei wraig Tracey yn parhau i adnewyddu ac altro dillad yn y cefn.

‘Os am ddilledyn ‘gwahanol’ ar gyfer achlysur pwysig, dyma’r lle i ddod’ yn ôl Gareth, ’does dim rhaid teithio i Gaer neu ymhellach’. Mae’r crysau a siacedi patrymog eisoes wedi bod yn boblogaidd gyda phobl sy’n mynd ar ‘cruise’. “Os da chi ddim eisiau edrych fel pawb arall mewn digwyddiad, dewch yma!” Cewch wasanaeth Cymraeg gan un o Gymry Lerpwl.

Mae Tracey a Gareth yn edrych ymlaen at weld Pont y Borth yn ail agor, gan fod cau’r bont wedi effeithio ar fusnes y ddau.