Radio Ysbyty Gwynedd yn cefnogi Haemochromatosis UK

Rhaglen radio elusennol i gefnogi Haemochromatosis UK

Sarah Wynn Griffiths
gan Sarah Wynn Griffiths

Mae Radio Ysbyty Gwynedd, elusen gofrestredig, yn falch o fod yn cefnogi Haemochromatosis UK  ar eu noson elusennol arbennig ar 31 o Fawrth 2023. 

Rhwng 8-9pm, bydd yna raglen Haemochromatosis UK gydag Yvonne Gallienne a Sarah Wynn Griffiths yn tynnu sylw at waith amhrisiadwy Haemochromatosis UK a chyfweliadau arbennig gyda Neil McClements, Prif Weithredwr Haemochromatosis UK, a John Evans perchennog a rheolwr y Black Boy Inn yng Nghaernarfon sy’n byw gyda haemochromatosis.

Yn ystod y sioe elusennol werthfawr hon, bydd Stephen McGann, yr actor poblogaidd o Call the Midwife yn sôn am fod yn llysgennad i’r elusen.

Gall cleifion Ysbyty Gwynedd wrando ar Radio Ysbyty Gwynedd ar sianel 1 ar eu clustffonau a gall ein cymuned ehangach wrando ar-lein: www.radioysbytygwynedd.com ac ar Ap Radio Ysbyty Gwynedd.

Dywedodd Kevin Williams, Cadeirydd Radio Ysbyty Gwynedd: “Fel elusen ein hunain, rydym yn falch iawn o fod yn cefnogi Haemochromatosis UK . Rydym yn falch o allu gweithio gyda’r elusen hon a chodi ymwybyddiaeth o’r cyflwr a chyfeirio ein gwrandawyr a’r gymuned ehangach o sut i gael prawf am y cyflwr genetig a’r gefnogaeth anhygoel sydd ar gael gan Haemochromatosis UK. Bydd yn noson emosiynol ac ysbrydoledig. Os hoffai elusennau eraill gael sylw ar un o’n sioeau elusennol arbennig, anfonwch e-bost at radioysbytygwynedd@gmail.com. Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych”.

Mae heamocromatosis yn gyflwr genetig lle mae lefelau haearn yn y corff yn cronni’n araf dros nifer o flynyddoedd. Gall y croniad hwn o haearn, a elwir yn gorlwytho haearn, achosi symptomau annymunol. Os na chaiff ei drin, gall hyn niweidio rhannau o’r corff fel yr iau, y pancreas a’r galon. Am ragor o wybodaeth: www.nhs.uk/conditions/haemochromatosis