Radio Ysbyty Gwynedd yn cefnogi Gorsaf Bad Achub RNLI Biwmares

Rhaglen radio elusennol arbennig gan Yvonne Gallienne a Sarah Wynn Griffiths ar Radio Ysbyty Gwynedd

Sarah Wynn Griffiths
gan Sarah Wynn Griffiths
Gorsaf Bad Achub RNLI BiwmaresS Barnard - Ffotograffydd RNLI
Sarah Wynn Griffiths - Radio Ysbyty Gwynedd

Sarah Wynn Griffiths – Radio Ysbyty Gwynedd

Yvonne Gallienne - Radio Ysbyty Gwynedd

Yvonne Gallienne – Radio Ysbyty Gwynedd

Mae Radio Ysbyty Gwynedd, elusen gofrestredig, yn falch o gefnogi Gorsaf Bad Achub RNLI Biwmares ar eu noson elusennol arbennig ar 25 Awst 2023.

Rhwng 8-9yh, bydd rhaglen arbennig Gorsaf Bad Achub RNLI Biwmares gyda’r cyflwynwyr Yvonne Gallienne a Sarah Wynn Griffiths yn amlygu gwaith heriol a gwerthfawr Gorsaf Bad Achub RNLI Biwmares.

Bydd cyfweliadau arbennig yn fyw o Orsaf Bad Achub RNLI Biwmares gyda John Pulford, Swyddog Gwirfoddol y Wasg ac Ymweliadau Bad Achub RNLI Biwmares a Paul Blackwell a Dave Owen, sy’n gwirfoddoli yng Ngorsaf Bad Achub RNLI Biwmares fel aelodau criw.

Yn ystod y sioe elusennol ysbrydoledig hon, bydd Yvonne a Sarah yn codi ymwybyddiaeth o waith gwych Gorsaf Bad Achub RNLI Biwmares, ac yn rhannu gwybodaeth am sut y gall gwrandawyr gefnogi’r elusen trwy gyfleoedd gwirfoddoli a chodi arian.

Yn dilyn y rhaglen elusennol, bydd rhaglen archif arbennig o 1979 yn cael ei darlledu ar Radio Ysbyty Gwynedd (Ysbyty C+A ar y pryd) yn cynnwys Richard ‘Dic’ Evans, Coxswain Bad Achub RNLI Moelfre, a wasanaethodd 50 mlynedd, a dderbyniodd ddwy Fedal Aur RNLI am waith arwrol yn achub bywydau ar y môr.

Dywedodd Kevin Williams, Cadeirydd Radio Ysbyty Gwynedd “Rydym yn falch iawn o gefnogi Gorsaf Bad Achub RNLI Biwmares. Mae’n gyfle gwych i weithio gyda’r elusen i godi ymwybyddiaeth o’u gwaith heriol ac achub bywyd, yn ogystal â chyfleoedd codi arian a gwirfoddoli. Mae’n mynd i fod yn rhaglen addysgiadol ac ysbrydoledig iawn. Rydym wrth ein bodd yn gweithio gydag elusennau a byddem wrth ein bodd yn clywed gan elusennau eraill a hoffai weithio gyda ni ar un o’n rhaglenni elusennol arbennig. Gall unrhyw un sydd â diddordeb e-bostio radioysbytgwynedd@gmail.com. Edrychwn ymlaen at glywed oddi wrthych”.

Mae Radio Ysbyty Gwynedd ar gael nawr ar Alexa – gofynnwch i Alexa ‘Play Bangor Hospital Radio’.

Gall cleifion yn Ysbyty Gwynedd wrando ar Radio Ysbyty Gwynedd ar sianel 1 ar eu clustffonau yn yr ysbyty. Gall ein cymuned ehangach wrando ar-lein: www.radioysbytygwynedd.com, ar Ap Radio Ysbyty Gwynedd a hefyd ar Alexa.

Cafodd Radio Ysbyty Gwynedd ei enwi’n ‘Orsaf Radio Ysbyty’r Flwyddyn 2022’ y DU gan y Gymdeithas Darlledu Ysbytai ac enillodd hefyd y wobr ‘Efydd’ am ‘Orsaf Ddigidol y Flwyddyn’ yng Ngwobrau Radio Cymunedol 2022.

Mae’r orsaf yn mynd o nerth i nerth – yn gweithio ar raglenni elusennol arbennig i dynnu sylw at waith gwerthfawr elusennau lleol a chenedlaethol, a nifer o ddarllediadau allanol yn cefnogi digwyddiadau gwych gan gynnwys Gŵyl Gerdd Pier Garth Bangor 2023, Balchder Gogledd Cymru 2023, Relay For Life 2023 a Phenblwydd 75 y GIG.