Radio Ysbyty Gwynedd yn cefnogi Asthma + Lung UK

Rhaglen radio elusennol arbennig gan y cyflwynydd Sarah Wynn Griffiths sy’n byw gydag asthma

Sarah Wynn Griffiths
gan Sarah Wynn Griffiths
Sarah Wynn Griffiths

Mae Radio Ysbyty Gwynedd, elusen gofrestredig, yn falch o fod yn cefnogi Asthma + Lung UK ar eu noson elusennol arbennig ar yr 2il o Fai 2023, Diwrnod Asthma y Byd. 

Gwrando eto ar y rhaglen: https://bit.ly/42ncjtP

Rhwng 7-8pm, bydd yna raglen Asthma + Lung UK gyda’r chyflwynydd a’r cerddor Sarah Wynn Griffiths, sy’n byw gyda asthma, yn tynnu sylw at waith amhrisiadwy Asthma + Lung UK a chyfweliadau arbennig gyda Caerwyn Roberts – Ffisiotherapydd Clinigol Arbenigol yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor,  Sally Heywood – Rheolwr Codi Arian Cymunedol Asthma + Lung UK (Gogledd Orllewin), Jenny Pearson – Canu dros Iechyd yr Ysgyfaint yng Ngogledd Orllewin Cymru a Suzanne Smith, Nyrs Llinell Gymorth Anadlol Arbenigol yn Asthma + Lung UK.

Yn ystod y sioe elusennol werthfawr hon, bydd y cyflwynydd Sarah Wynn Griffiths a Sally Heywood o Asthma + Lung UK yn rhannu eu profiadau eu hunain ar fyw gydag asthma a chodi ymwybyddiaeth o’r cyflwr a’r gwasanaethau cymorth gwych sydd ar gael.

Gall cleifion Ysbyty Gwynedd wrando ar Radio Ysbyty Gwynedd ar sianel 1 ar eu clustffonau a gall ein cymuned ehangach wrando ar-lein: www.radioysbytygwynedd.com ac ar Ap Radio Ysbyty Gwynedd.

Dywedodd Kevin Williams, Cadeirydd Radio Ysbyty Gwynedd: “Fel elusen ein hunain, rydym yn falch iawn o gefnogi Asthma + Lung UK. Rydym yn falch o allu gweithio gyda’r elusen hon a chodi ymwybyddiaeth o’r cyflwr hwn, yn enwedig gan fod ein cyflwynydd Sarah yn dioddef o asthma ei hun. Bydd y rhaglen yn helpu i godi ymwybyddiaeth o’r cyflwr a’r gefnogaeth wych sydd ar gael gan Asthma + Lung UK.

Mae’n mynd i fod yn rhaglen addysgiadol ac ysbrydoledig iawn. Os hoffai elusennau eraill gael sylw ar un o’n sioeau elusennol arbennig, anfonwch e-bost at radioysbytygwynedd@gmail.com. Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych”.

Dywedodd Sarah “Rydw i mor falch o fod yn gweithio gydag Asthma + Lung UK ar y rhaglen radio elusennol bwysig hon ar Radio Ysbyty Gwynedd. Rwyf wedi byw gydag asthma ar hyd fy oes felly rwy’n gobeithio codi ymwybyddiaeth o’r cyflwr a sut beth yw byw gydag asthma, yn ogystal â’r gwasanaethau cymorth gwerthfawr sydd ar gael”.

Ychwanegodd Sally: “Rydym yn ddiolchgar i Radio Ysbyty Gwynedd am ein gwahodd i siarad am yr heriau sy’n wynebu pobl ag asthma a chyflyrau eraill ar yr ysgyfaint. Mae gan Gymru lefelau gwaeth o ofal asthma sylfaenol na gwledydd eraill y DU sy’n golygu bod angen i lawer gormod o bobl gael eu derbyn i Ysbyty Gwynedd ac ysbytai eraill yng Nghymru. Rydym yn helpu pobl i reoli eu cyflwr eu hunain, i gael y triniaethau sydd eu hangen arnynt er mwyn iddynt allu aros yn iach a rheoli eu hasthma.”

Mae asthma yn gyflwr hirdymor cyffredin iawn ar yr ysgyfaint. Mae’n effeithio ar y llwybrau anadlu sy’n cario aer i mewn ac allan o’ch ysgyfaint. Yn y DU, mae gan 5.4 miliwn o bobl asthma. Dyna un o bob 12 oedolyn ac un o bob 11 plentyn. Yn aml mae gan bobl ag asthma lwybrau anadlu sensitif, llidus. Gallant gael symptomau fel peswch, gwichian, teimlo’n fyr o wynt neu frest dynn (www.asthmaandlung.org.uk).