Radio Ysbyty Gwynedd yn cefnogi Ambiwlans Awyr Cymru

Rhaglen radio elusennol arbennig gan Yvonne Gallienne a Sarah Wynn Griffiths ar Radio Ysbyty Gwynedd

Sarah Wynn Griffiths
gan Sarah Wynn Griffiths
Yvonne Gallienne a Sarah Wynn Griffiths - Radio Ysbyty Gwynedd

Mae Radio Ysbyty Gwynedd, elusen gofrestredig, yn falch o fod yn cefnogi Ambiwlans Awyr Cymru ar eu noson elusennol arbennig ar yr 19eg o Fai 2023. 

Gwrando eto ar y rhaglen: https://bit.ly/42Yf59w

Rhwng 8-9pm, bydd yna raglen Ambiwlans Awyr Cymru gyda’r cyflwynwyr Yvonne Gallienne a Sarah Wynn Griffiths, yn tynnu sylw at waith achub bywyd Ambiwlans Awyr Cymru, gyda chyfweliadau arbennig gydag Alwyn Jones, Codwr Arian Cymunedol yn ​​Ambiwlans Awyr Cymru ac Alun Shorney, Gwirfoddolwr yn Ambiwlans Awyr Cymru. Bydd cyd-gyflwynydd a thrysorydd Radio Ysbyty Gwynedd, Jan Davies, yn sôn am bwysigrwydd Ambiwlans Awyr Cymru i’w diweddar fam.

Yn ystod y sioe elusennol ysbrydoledig hon, bydd Yvonne a Sarah yn codi ymwybyddiaeth o waith ffantastig Ambiwlans Awyr Cymru a rhannu gwybodaeth am sut gall gwrandawyr cefnogi’r elusen drwy gyfleoedd wirfoddoli a chodi arian.

Gall cleifion Ysbyty Gwynedd wrando ar Radio Ysbyty Gwynedd ar sianel 1 ar eu clustffonau a gall ein cymuned ehangach wrando ar-lein: www.radioysbytygwynedd.com ac ar Ap Radio Ysbyty Gwynedd.

Dywedodd Kevin Williams, Cadeirydd Radio Ysbyty Gwynedd: “Fel elusen ein hunain, rydym mor falch o gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru. Mae’n anrhydedd gallu codi ymwybyddiaeth o’r elusen hon a’u gwaith achub bywyd yn ogystal â chyfleoedd gwirfoddoli a chodi arian. Mae’n mynd i fod yn rhaglen addysgiadol ac ysbrydoledig iawn. Rydym wrth ein bodd yn gweithio gydag elusennau; os hoffai unrhyw elusennau eraill gael sylw ar un o’n rhaglenni radio elusennol arbennig, anfonwch e-bost atom radioysbytygwynedd@gmail.com. Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi”.

Ychwanegodd Alwyn Jones, Codwr Arian Cymunedol yn Ambiwlans Awyr Cymru “Mae cefnogaeth pobl Cymru yn hollbwysig i lwyddiant parhaus yr elusen. Diolch o galon am eich cefnogaeth barhaus – boed yn gefnogwr presennol neu newydd”.