Prifysgol Bangor a’r Gymuned

Diweddariad ar ddatblygiadau’r Brifysgol o ddiddordeb ac o fudd i’r gymuned leol (Rhagfyr 2023)

gan Iwan Williams

Mae’r wythnosau cyn y Nadolig wedi bod yn gyfnod prysur yn y Brifysgol, gyda myfyrwyr yn parhau â’u hastudiaethau, cyfres o Ddiwrnodau Agored ac ystod eang o weithgareddau a digwyddiadau yn ymwneud â staff, myfyrwyr a’r gymuned.

Roedd y Diwrnod Cymunedol, a gynhaliwyd yn y Brifysgol ar 14 Hydref yn llwyddiant ysgubol. Daeth tua mil o bobl o gymuned Bangor, a thu hwnt, i ymweld â’r Brifysgol a mwynhau’r gweithgareddau, gweithdai, perfformiadau ac arddangosfeydd ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau a Pontio. Diben y diwrnod oedd croesawu cymunedau lleol a rhannu’r ystod eang o waith sy’n mynd ymlaen yn y Brifysgol. Roedd yn gyfle i’r cyhoedd gwrdd â staff, i staff gwrdd â’r gymuned leol ac i bobl o bob oed fwynhau diwrnod hydrefol bendigedig ar dir y Brifysgol.

Roedd yr adloniant a’r gweithgareddau’n canolbwyntio ar bum thema: Ein Planed; Ein Hiechyd; Ein Heconomi; Ein Technolegau; a’n Diwylliannau a’n Cymdeithas. Cafodd y cyhoedd eu hannog i ymweld â’r arddangosfeydd a’r stondinau rhyngweithiol yn Neuadd Powis a Neuadd Prichard-Jones, y perfformiadau cerddorol a gweithgareddau chwaraeon yn y cwadrangl allanol, yr arddangosfa yn archifau’r Brifysgol, ystod eang o arddangosiadau, perfformiadau a gweithgareddau yn Pontio, yn ogystal â thaith gerdded yn cyflwyno hanes Prif Adeilad y Celfyddydau ynghyd ag ymweld â’r llawr masnachu yn Ysgol Busnes Bangor a’r Ffug Lys.

Roedd y Diwrnod Cymunedol yn gyfle i bobl weld pa mor berthnasol all gwaith y Brifysgol fod i fywydau pobl o ddydd i ddydd, yn ogystal â gweld cyfleoedd i ddysgu, tyfu a datblygu fel unigolion, a phrofi ymdeimlad o berchnogaeth dros eu prifysgol leol. Yn sicr, mae’r Diwrnod Cymunedol wedi helpu i ddod â staff y Brifysgol, myfyrwyr a’r gymuned leol yn agosach at ei gilydd, a hoffem ddiolch i bawb a oedd yn bresennol am ymweld, cymryd rhan a chyfrannu at lwyddiant y digwyddiad.

Mae partneriaeth tair blynedd o hyd y Brifysgol gyda’r Sefydliad Materion Cymreig yn parhau. Cynhaliwyd y digwyddiad diweddaraf yn M-SParc ar 5 Hydref. Roedd ‘Pweru Ynys Ynni a’i Phobl‘ yn mynd i’r afael â photensial Ynys Môn mewn nifer o sectorau ynni, a sut y gall datblygu Ynys Ynni fod o fudd i’w chymunedau. Roedd y digwyddiad yn cynnwys Dr Simon Middleburgh a’r Athro Simon Neill fel siaradwyr o’r Brifysgol yn ogystal â sesiwn banel a oedd yn cynnwys Dylan Williams, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ynys Môn, Dr John Idris Jones, Morlais, a Virginia Crosbie AS. Cynhelir y digwyddiad nesaf ym Mhenygroes ar 19 Mawrth, a bydd manylion pellach i ddilyn.

Mae Cronfa Gymunedol y Brifysgol yn parhau. Daeth yr alwad ddiweddaraf i staff y Brifysgol gyflwyno cynigion i atgyfnerthu neu roi hwb i gydweithrediadau newydd â phartneriaid cymunedol i ben ar 8 Rhagfyr. Ar 16 Tachwedd, helpodd y Gronfa i gefnogi Uwchgynhadledd Iechyd Meddwl a Lles Prifysgol y Plant, a gynhaliwyd gan y Brifysgol. Yn bresennol yn yr uwchgynhadledd, a oedd yn cynnwys cyfres o gyflwyniadau a gweithdai, roedd disgyblion o bump o ysgolion uwchradd y gogledd.

Mae’r Brifysgol yn parhau i weithio’n agos gyda Chyngor Dinas Bangor. Cefnogodd y Brifysgol y Cyngor gydag ymweliad dirprwyaeth o Soest, gefeilldref Bangor yn yr Almaen. Fel rhan o ddathliadau hanner canmlwyddiant y gefeillio rhwng y dinasoedd, cynhaliodd y Brifysgol dderbyniad i’r ddirprwyaeth yn Neuadd Powis ar 4 Hydref. Cafodd y ddirprwyaeth fwynhau cyngerdd gyda’r nos, gyda pherfformiadau gan adran cerddoriaeth y Brifysgol. Mae’r Brifysgol hefyd yn gweithio gyda’r Cyngor mewn perthynas â Gŵyl Wyddoniaeth Bangor a Chynhadledd Ymchwilwyr Ifanc Gogledd Cymru, a gynhelir yn Pontio a Neuadd Penrhyn ar 8-9 Mawrth.

Mae Undeb Myfyrwyr Bangor yn parhau i weithio gyda’r Cyngor ar y project gwirfoddoli Prydau Poeth. Mae’r project, sydd dan arweiniad myfyrwyr, a lansiwyd ym mis Medi ac a gynhelir bob prynhawn Sadwrn yn Neuadd Penrhyn (Cyngor Dinas Bangor), yn cynnig bwyd cynnes, llawn maeth, i unrhyw un mewn angen yn ardal Bangor. Mae’r project Prydau Poeth yn trefnu dathliad a chinio Nadolig, ddydd Sadwrn 23 Rhagfyr (3-6pm) yn Neuadd Penrhyn. Arweinwyr myfyrwyr fydd yn cynnal y sesiwn, gyda chefnogaeth gwirfoddolwyr o Glwb Rygbi Bangor. Mae croeso i unrhyw un o’r gymuned a fyddai’n elwa o gael pryd poeth am ddim, a bydd staff o gartrefi gofal lleol yn mynychu gyda rhai o’u defnyddwyr gwasanaeth. Mae’r project yn cydnabod bod y Nadolig yn gyfnod heriol ac unig i lawer o bobl, ac mae’r gwirfoddolwyr yn edrych ymlaen at weini bwyd blasus, ynghyd â cherddoriaeth, a chynnig cyfle i bawb ddod at ei gilydd i fwynhau. Mae Harlech Foods wedi cytuno i noddi’r digwyddiad, gan gyfrannu eitemau arlwyo a bwyd.

Trefnodd Arweinwyr Myfyrwyr De Parti Nadolig blynyddol Undeb Bangor ar 2 Rhagfyr, yn yr Hyb Gweithgareddau ar safle Ffriddoedd (12-4pm). Mae’r project yn parhau i roi cyfle i bobl hŷn Bangor fynd allan i gymdeithasu, ac mae’n helpu i leihau unigrwydd ac unigedd. Daeth myfyrwyr a defnyddwyr gwasanaeth ynghyd i ddathlu’r Nadolig a mwynhau bwyd ac adloniant, wrth helpu i ddatblygu cymuned fwy integredig ym Mangor.

Mae Pontio yn parhau i fod yn ganolbwynt prysur i’r gymuned yr hydref hwn. Mae fabLAB wedi cynnal sesiynau cynefino i gyflwyno pobl i’r ardaloedd a’r offer sydd ar gael i aelodau. Fel rhan o Fis Hanes Pobl Ddu, cynhaliodd PL2 ddigwyddiad ‘Dathlu a Dyrchafu’ ar 18 Hydref, a oedd yn cynnwys siaradwyr, perfformiadau, ffilmiau a samplau bwyd trwy gydweithrediad arlwyo rhwng y Brifysgol a Maggie’s Kitchen. Mae BLAS, rhaglen gymunedol Celfyddydau Pontio yn parhau gyda sesiynau Caffi Babis misol, a sesiynau dawns wythnosol i unigolion sy’n byw gyda chlefyd Parkinson. Perfformiodd aelodau gweithdai drama BLAS eu cynhyrchiad ‘Catwalk’ yn Theatr Bryn Terfel ar ôl treulio wythnosau yn ei ddatblygu yn eu sesiynau drama wythnosol.

Mae amrywiaeth o ddigwyddiadau’n cael eu cynnal i godi hwyl yr ŵyl yn y cyfnod cyn y Nadolig, yn ogystal â pherfformiadau gan y gymuned leol. Perfformiodd Cerddorfa Symffoni a Chorws y Brifysgol raglen Nadoligaidd yn Neuadd Prichard-Jones ar 9 Rhagfyr, a chyflwynodd myfyrwyr Ysgol Tryfan eu sioe ‘MELA’ yn Theatr Bryn Terfel ar ddwy noson ar 13-14 Rhagfyr. Bydd Ysgol Ein Harglwyddes ac Ysgol Llanllechid yn perfformio eu cyngherddau Nadolig, gydag Ysgol Ein Harglwyddes yn cyflwyno ‘The Magical Christmas Jig-so‘ ac ‘A Wriggly Nativity‘ ar 18 Rhagfyr, ac Ysgol Llanllechid yn croesawu Côr y Penrhyn i ddathlu tymor y Nadolig, dan gyfarwyddyd Mrs Delyth Humphreys a Mr Arwel Davies ar 19 Rhagfyr.

Mae Gardd Fotaneg Treborth yn parhau i fod yn fwrlwm o weithgarwch a datblygiadau cyffrous. Cynhaliodd yr ardd amrywiaeth o weithdai a sgyrsiau trwy gydol mis Hydref a mis Tachwedd, gan gynnwys gwasgu blodau, gwneud sebon botanegol, sgyrsiau garddio alpaidd a theithiau cerdded lles yn y coetir Dechreuodd mis Rhagfyr gyda sesiynau gwneud torch Nadolig a dosbarthiadau celf fotanegol, yn ogystal â dosbarthiadau Nadoligaidd yr ysgol goedwig yn y gasibo ffrâm dderw newydd, a adeiladwyd gan Elfennau Gwyllt at ddiben addysgu yn yr awyr agored. Bu’r tîm hefyd yn cymryd rhan yn y Diwrnod Cymunedol, ac roedd plant a phobl eraill yn dangos diddordeb mawr yn stondin Treborth.

Mae M-SParc hefyd yn parhau i fod yn fwrlwm o ddatblygiadau, gweithgarwch a digwyddiadau cyffrous. Cynhaliwyd Sesiynau ‘Gofod Gwneud’ Ffiws yn safleoedd ‘Ar y Lôn’ Bangor a Phwllheli ar 29 Tachwedd, a oedd yn cynnig cyfle i’r cyhoedd ddatblygu eu sgiliau creadigol a defnyddio torwyr laser ac argraffwyr 3D, ymysg offer eraill. Cynhaliwyd yr ymgysylltiad diweddaraf ag ysgolion lleol trwy Glwb Sparci ar 14 Rhagfyr, gan ganolbwyntio ar sgiliau digidol a chodio. Cafodd ‘caffis trwsio’ y Nadolig eu cynnal ym Mhwllheli ar 8 Rhagfyr ac ym Mangor ar 19 Rhagfyr, gyda’r bwriad o annog pobl i ddod â hen deganau, neu deganau sydd wedi torri, i mewn er mwyn cael eu trwsio a’u rhoi i’r Banc Bwyd dros y Nadolig. Cynhaliwyd digwyddiad ar 23 Tachwedd i nodi partneriaeth newydd rhwng M-SParc a Chymdeithas Bêl-droed Cymru. Bydd hwb arloesi Cymdeithas Bêl-droed Cymru’n cynnig llwyfan i weithio gyda phartneriaid M-SParc ac annog technolegau a datrysiadau arloesol o fewn pêl-droed cymunedol ac ar lawr gwlad.

Mae’n gyfnod prysur a chyffrous rhwng pob dim, a byddwn yn parhau i rannu diweddariadau gyda chi’n rheolaidd am ddatblygiadau’r Brifysgol mewn perthynas â’r gymuned. Ar ran y Brifysgol, Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd!

#EichPrifysgolEichCymuned